Pedwar o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn ymchwiliad i ynni
14 Mawrth 2012
Ddydd Iau 15 Mawrth, bydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn clywed cyfraniadau gan y Prif Weinidog a thri o weinidogion y Cabinet fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio.
Bydd Aelodau’r Pwyllgor yn holi Carwyn Jones AC ynghyd ag Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy.
Bydd y cyfarfod yn dechrau dwyn i derfyn y gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2011, ac mae wedi clywed gan amrywiaeth o dystion, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, datblygwyr, gwyddonwyr a chynrychiolwyr cymunedol.
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, “Dechreuodd y Pwyllgor gyda chylch gwaith o edrych yn gyffredinol ar gynhyrchu ynni yng Nghymru a’r polisïau a’r cynlluniau sy’n berthnasol i hynny.
“Erbyn diwedd y gwaith hwn, byddwn wedi ystyried popeth o leoliadau gosodiadau mawr, gan gynnwys ffermydd gwynt a phwer niwclear i feicrogynhyrchu drwy dyrbinau gwynt a chelloedd ffotofoltäig ar gartrefi Cymru.
“Mae’n amlwg bod angen ystyried materion cymhleth wrth drafod y prosesau cynllunio a chaniatáu ar gyfer cynhyrchu ynni a goblygiadau hyn ar gymunedau a diwydiant Cymru.
“Rydym yn falch o gael holi’r Prif Weinidog a’i gyd-Aelodau yn y Cabinet ac edrychwn ymlaen at glywed beth sydd ganddynt i’w ddweud am un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu Cymru heddiw.”