Penodi Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd

Cyhoeddwyd 17/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/07/2019

​Mae Arwyn Jones wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Arwyn yn Ohebydd Gwleidyddol gyda BBC Cymru ar ôl gweithio mewn nifer o uwch-swyddi newyddiadurol yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.  Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Y cyfarwyddwr fydd y prif arweinydd strategol ar ein rhwydweithiau cyfathrebu ac ymgysylltu a bydd yn gyfrifol am gyflawni ein huchelgais o wella enw da'r Cynulliad fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol ac arloesol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru. Gwnaed y penodiad yn dilyn proses recriwtio gystadleuol a thrylwyr.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Gyda'n Senedd Ieuenctid newydd, ein gwaith parhaus ym maes diwygio'r Cynulliad a diwygio etholiadol a materion cyfansoddiadol ehangach, mae'n adeg arbennig o ddiddorol a phwysig i ymuno â thîm y Cynulliad. 

"Rwy'n falch iawn fy mod wedi denu cyfarwyddwr newydd dawnus ac uchel ei barch ac rwy'n gwbl sicr y bydd gweledigaeth a sgiliau Arwyn yn gaffaeliad mawr i ni wrth i'n democratiaeth gychwyn y cyfnod trawsnewid nesaf."

Dywedodd Arwyn Jones: "Ar ôl arsylwi gwaith y Cynulliad dros y degawd a hanner diwethaf, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â'r swydd ar adeg mor gyffrous o newid cyfansoddiadol. Mae ceisio cyrraedd pleidleiswyr ac ymgysylltu â nhw yn cyflwyno heriau a chyfleoedd ar rwyf ar dân i gychwyn arni."

Bydd Arwyn yn dechrau yn ei swydd ym mis Medi 2019.