Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae Peter Tyndall wedi cael ei benodi’n Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Enwebwyd Mr Tyndall ar gyfer y penodiad gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl proses recriwtio ffurfiol. Cadarnhawyd ei benodiad gan Ei Mawrhydi’r Frenhines.
Bydd Mr Tyndall yn dechrau ei ddyletswyddau newydd ar Ebrill 21. Mae ei benodiad yn dilyn ymddeoliad ei ragflaenydd fel Ombwdsmon, Adam Peat. Mr Peat oedd deiliad cyntaf y swydd a grëwyd trwy gyfuno tair gwahanol swydd sy’n ymdrin â gweinyddiaeth gyhoeddus, y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol.
Fel Ombwdsmon, bydd Mr Tyndall yn gallu ymchwilio i gwynion a wneir gan aelodau’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi dioddef niwed neu anghyfiawnder o ganlyniad i gamweinyddiaeth neu fethiant gwasanaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, llywodraeth leol, y GIG, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan gynnwys cymdeithasau tai ac amrywiaeth o gyrff cyhoeddus eraill a reolir neu a ariennir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gyhuddiadau bod aelod o awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod.
Dywedodd Mr Tyndall: “Mae’n bleser ac yn anrhydedd gennyf ymgymryd â dyletswyddau’r swydd. Wrth wneud hyn hoffwn dalu teyrnged i waith fy rhagflaenydd, Adam Peat, sydd wedi sefydlu’r rôl newydd a’i datblygu’n effeithiol.
“Mae gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig i bawb yng Nghymru, ac yn arbennig i’r rhai sy’n dod o gymunedau difreintiedig neu sydd mewn perygl o ddioddef camwahaniaethu. Fel Ombwdsmon, byddaf yn gweithio i sicrhau bod gwasanaeth annibynnol, diduedd a phroffesiynol, sy’n sefyll dros hawliau dinasyddion cyffredin ar gael i bawb. Byddaf yn sicrhau bod yr Ombwdsmon yn parhau i chwarae rhan wrth ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell, tecach a mwy ymatebol ar gyfer pawb yng Nghymru.”
Croesawyd penodiad Mr Tyndall gan wleidyddion o bob plaid. Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd: “Hoffwn ddiolch i Adam Peat, ar ran pawb, am ei waith; mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn enwedig ar ei ffurf newydd ac estynedig, yn swydd bwysig i ni i gyd fel Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n croesawu Peter Tyndall, sydd wedi bod yn gyfaill da i ni i gyd, yn enwedig ym myd y celfyddydau.”
Nodiadau ar gyfer golygyddion: Mae Mr Tyndall yn briod gyda thri o blant ac yn byw yn Sili ger Penarth. Mae’n frodor o Ddulyn yn wreiddiol, ond wedi bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. Bu’n Brif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru er 2001, ac ef oedd Pennaeth Addysg a Materion Diwylliannol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gynt. Roedd ei yrfa flaenorol yn cynnwys swyddogaethau arwain a rheoli ar gyfer llywodraeth leol a’r sector annibynnol, a hynny ym maes tai a gwasanaethau ar gyfer pobl anabl.
Cadeirydd panel recriwtio’r Ombwdsmon oedd Alun Cairns AC yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad. Aelodau eraill y panel oedd Ann Abraham, Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd Lloegr, Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Vivienne Sugar, yn gweithredu fel yr Asesydd Annibynnol.