Penodi Prif Weinidog newydd
Ar ôl deng mlynedd yn arwain Llywodraeth Cymru, bydd y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC yn ymddeol fel Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru.
Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf mai Carwyn Jones AC fydd arweinydd newydd y blaid yng Nghymru, a disgwylir y bydd ei enw’n cael ei gynnig ar gyfer swydd y Prif Weinidog.
Os ydych chi wedi bod yn dilyn y digwyddiadau hyd at ymddeoliad y Prif Weinidog a’r broses o benodi olynydd, mae’n ymddangos yn drefn gymharol syml a rhwydd. Ond, mewn gwirionedd, mae pethau fymryn yn gymhlethach na hynny. Yn yr erthygl hon, rydym yn gobeithio esbonio’n union beth sy’n digwydd yn y cyfnod rhwng ymddiswyddiad un person a phenodi person arall yn Brif Weinidog Cymru.
Nos Fawrth, 8 Rhagfyr, disgwylir y bydd Mr Morgan yn cyflwyno’i ymddiswyddiad yn ffurfiol, sy’n golygu mai’r sesiwn gwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mawrth fydd ei un olaf (Gallwch ei ddilyn ar Senedd TV am 13.00). Mae’n bosibl y bydd y Prif Weinidog yn gwneud ei ddatganiad olaf ar ddiwedd y cyfarfod cyn iddo ymddiswyddo.
Fel mater o ffurfioldeb, rhaid i ymddiswyddiad y Prif Weinidog gael ei dderbyn gan Ei Mawrhydi’r Frenhines. O dan Reol Sefydlog 4.4, rhaid i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, y Llywydd, roi gwybod i’r Cynulliad am yr ymddiswyddiad drwy osod hysbysiad yn y Swyddfa Gyflwyno.
Bydd y Llywydd wedyn yn gwneud trefniadau er mwyn dechrau’r broses enwebu. Disgwylir mai’r broses hon fydd yr eitem gyntaf o Fusnes y Cynulliad ddydd Mercher, 9 Rhagfyr, ar ôl y cwestiynau llafar i Weinidogion.
Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer swydd y Prif Weinidog. Unwaith y bydd y Cynulliad wedi ethol Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog, mae adran 47(4) o’r Ddeddf yn datgan bod yn rhaid i’r Llywydd anfon llythyr at Ei Mawrhydi’r Frenhines yn argymell y dylai Ei Mawrhydi benodi’r person hwn.
Bydd y Llywydd yn rhoi gwybod i’r Llywodraeth bod y Frenhines wedi derbyn yr enwebiad, a bydd hynny’n caniatáu i’r Prif Weinidog newydd dyngu llw gerbron Barnwr Gweinyddol uchaf cylchdaith Cymru, Meistr Ustus Nigel Davis.
Aelodau’r Cabinet a swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol
Un o swyddi cyntaf y Prif Weinidog newydd fydd penodi aelodau o’r Cabinet a Chwnsler Cyffredinol newydd, er mai dyletswydd y Frenhines mewn gwirionedd yw penodi’r Cwnsler Cyffredinol yn unol ag argymhelliad y Prif Weinidog. Y Cwnsler Cyffredinol yw cynghorwr cyfreithiol y Cabinet a bydd person yn rhoi’r gorau i ddal y swydd os caiff Aelod Cynulliad ei enwebu i’w benodi’n Brif Weinidog.
Rhaid i’r Cynulliad gytuno ar argymhelliad y Prif Weinidog newydd ar gyfer Cwnsler Cyffredinol cyn y bydd Ei Mawrhydi’n ei benodi.
Y Prif Weinidog sydd i benderfynu pwy fydd aelodau’r Cabinet, ac nid yw’r Cynulliad yn rhan o’r broses hon. Bydd y Gweinidogion presennol yn aros yn eu swyddi tan y bydd y Prif Weinidog newydd yn eu diswyddo neu tan y byddant yn dewis ymddiswyddo. Mae’n debygol y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am y Cabinet newydd, gan roi datganiad llafar i’r Cyfarfod Llawn yn y flwyddyn newydd.