Mae aelodau newydd wedi’u penodi i eistedd ar Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, y corff sy’n pennu cyflogau Aelodau o’r Senedd yn ogystal â’u costau busnes, gan gynnwys staffio, llety a theithio.
Mae’r Arglwydd Nicholas Bourne a Jennifer Long wedi’u penodi, gan ddechrau o 6 Mai 2025, i lenwi’r swyddi gwag presennol, a bydd Gareth Llewellyn yn dechrau o 21 Medi 2025, pan ddaw ail dymor y Fonesig Jane Roberts i ben.
Mae Dr Elizabeth Haywood wedi’i hailbenodi’n Gadeirydd ac mae Hugh Widdis wedi’i ailbenodi’n aelod o’r Bwrdd a byddant yn dechrau ar eu hail dymor o bum mlynedd ym mis Medi 2025.
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:
“Dwi wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i benodi Bwrdd newydd gydag ystod mor eang o arbenigedd a phrofiad ym maes taliadau o sectorau gwahanol. Dwi’n falch iawn bod Elizabeth a Hugh wedi cytuno i barhau i eistedd ar y Bwrdd, bydd eu profiad nhw’n sicrhau cysondeb strategol yn ystod cyfnod hanfodol bwysig o drawsnewid i’r Senedd a bydd Jennifer, Nick a Gareth yn ymuno â nhw gyda syniadau a safbwyntiau newydd.
“Bydd hygrededd ac ansawdd aelodau’r Bwrdd yn parhau i helpu i roi sicrwydd bod cyllid cyhoeddus Cymru yn cael ei wario gyda chywirdeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.”
Dywedodd Dr Elizabeth Haywood:
“Mae’n bleser gen i barhau’n Gadeirydd y Bwrdd yn ystod cyfnod o newid sylweddol i’r Senedd a dwi’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau newydd y Bwrdd.
“Hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch a thalu teyrnged i’r Fonesig Jane Roberts a’r diweddar Mike Redhouse, a wnaeth ddau dymor, a’r Arglwydd Hanson o’r Fflint, sydd i gyd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith y Bwrdd ac i’r Senedd.”
Mae’r Bwrdd wrthi’n ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad ar gyfer y Senedd nesaf. Mae’n rhan o ymarfer mawr gan y Bwrdd i adolygu ei Benderfyniad wrth i’r Senedd baratoi i ddod yn senedd â 96 o Aelodau.
Darllen Mwy
Dysgwch am waith y Bwrdd Taliadau Annibynnol