Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal penwythnos hwyl haf gyda gemau carnifal, celf a chrefft a chorau Cymreig rhwng 27 a 29 Awst.
I gyd-fynd â Gŵyl yr Harbwr Caerdydd, bydd paentio wynebau, ardal chwarae meddal a helfa drysor arbennig y Senedd hefyd yn cael eu cynnal, gyda gwobrau i’w hennill.
Bydd y Senedd yn agored bob dydd rhwng 10.30 a 16.30. Gall ymwelwyr gael taith o amgylch yr adeilad eiconig hwn, gan gynnwys y Siambr drafod lle bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eistedd; a chymryd seibiant haeddiannol tra’n mwynhau diod poeth a phice ar y maen yn siop goffi’r Senedd.
Mae grisiau’r Senedd hefyd yn lle delfrydol i wylio Grand Prix PI y Môr Cymru, ble y bydd fflyd o un ar ddeg o gychod cyflym a thros 30 o bobl sy’n sgïo jet yn cystadlu drwy gydol y penwythnos.