Petition calling for free sunscreen for under 11s to be handed in at the Senedd

Cyhoeddwyd 03/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Deiseb yn galw am roi eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed wedi cael ei chyflwyno yn y Senedd

4 Hydref 2011

Mae deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed wedi cael ei chyflwyno yn y Senedd ar ddydd Mawrth 4 Hydref am 12.45pm.

Lluniwyd y ddeiseb gan yr elusen canser Tenovus ac fe’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Deisebau trawsbleidiol, a fydd yn ei hystyried ac yn penderfynu pa gamau i’w cymryd.

Mae William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau a’r Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi derbyn y ddeiseb.

Ceir rhagor o wybodaeth am broses ddeisebau'r Cynulliad.