Pleidleisio yn agor ar gyfer etholiadau cyntaf erioed Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 05/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae'r pleidleisio yn agor am 10:00 heddiw (dydd Llun 5 Tachwedd) ar gyfer etholiad cyntaf erioed Senedd Ieuenctid Cymru ac anogir pobl ifanc o bob cwr o Gymru i fwrw eu pleidlais i ddewis eu cynrychiolydd lleol. Bydd yn rhoi ffordd hollol newydd i bobl ifanc Cymru rhwng 11 a 18 oed i sicrhau bod eu llais yn cael eu clywed ar lefel genedlaethol.

  • Pobl ifanc 11-18 oed ledled Cymru yn dewis cynrychiolwyr yn Senedd Ieuenctid Cymru
  • Mae 480 o bobl ifanc wedi gwneud cais i fod yn ymgeiswyr, ac mae dros 13,000 eisoes wedi cofrestru i bleidleisio
  • Mae'r pleidleisio electronig ar agor tan 25 Tachwedd

Bydd 480 o ymgeiswyr yn cystadlu am 40 o seddi etholaethol ledled Cymru. Gyda nifer o ymgeiswyr yn pleidleisio ar gyfer pob sedd, bydd gan bobl ifanc rhwng 11-18 oed ddewis go iawn o ran pwy i'w hanfon i'r Senedd i'w cynrychioli. Mae'r holl ymgeiswyr wedi postio eu manylion ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru a byddant yn dechrau ymgyrchu heddiw.

Gall unrhyw un rhwng 11-18 oed ac sy'n byw yng Nghymru gofrestru i bleidleisio ac mae dros 13,000 eisoes wedi gwneud hynny. Mae modd i bobl ifanc dal gofrestru i bleidleisio hyd at 16 Tachwedd ac mae'r bleidlais yn cau am 17.00 ddydd Sul 25 Tachwedd.

Pleidleisir yn electronig a gellir defnyddio unrhyw ddyfais i fwrw pleidlais ar ôl i'r pleidleisiwr gael e-bost gyda chod unigryw. Credir mai dyma'r tro cyntaf i bleidleisio electronig gael ei ddefnyddio mewn etholiad agoriadol yn y DU.

 

 

 

Er mwyn adlewyrchu cyfansoddiad y Cynulliad Cenedlaethol ei hun, sydd â 60 aelod, bydd 20 sedd arall yn cael eu dewis gan sefydliadau partner yng Nghymru. Caiff yr 20 aelod hyn eu dychwelyd er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli.

Bydd pob Aelod Senedd Ieuenctid yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd. Bydd yn rhoi hawl i bobl ifanc benderfynu pa faterion sy'n bwysig iddynt, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o'r materion hynny a dadlau yn eu cylch.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Rwy'n falch iawn ein bod o'r diwedd yn gallu agor y pleidleisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru.

“Mae hyn yn digwydd ar ôl blynyddoedd o gynllunio ac ymgynghori â thros 5,000 o bobl ifanc ledled Cymru, ac mae'n rhan o sut bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys yn genhedlaeth nesaf yn ein gwaith.

“Hoffwn annog unrhyw un sy'n gymwys ac sydd heb gofrestru i bleidleisio eto i fynd i wefan Senedd Ieuenctid Cymru, i weld pwy sy'n sefyll yn yr etholiad yn eu hardal nhw a sut maen nhw'n bwriadu eich cynrychioli chi.”

Mae ymgeiswyr yn ddi-bleidiol ac ni ddylent berthyn i unrhyw blaid. Byddant yn ymgyrchu ar nifer o faterion ond, pan ofynnir, y materion y soniwyd amdanynt amlaf (yn nhrefn poblogrwydd) oedd; Ymwybyddiaeth a Chymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl, yr Amgylchedd (Taflu Sbwriel a Gwastraff Plastig) a Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm.

Mae llawer o ysgolion ledled Cymru yn trefnu eu diwrnodau pleidleisio yn ystod etholiad Senedd Ieuenctid Cymru gyda rhai Aelodau Cynulliad yn cymryd rhan i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r broses ddemocrataidd. (Manylion isod) 

Disgwylir i ganlyniadau'r Etholiad gael eu cyhoeddi ddechrau mis Rhagfyr.

 



Pleidleisia nawr

Edrych ar yr ymgeiswyr a phenderfyna pwy gaiff dy bleidlais.

Gweld yr ymgeiswyr ›