Pobl Ifanc Anabl i annerch y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Bydd grwp o bobl ifanc anabl yn annerch cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ddydd Iau 24 Ionawr.
Roedd y bobl ifanc, o bob rhan o Gymru’n aelodau o grwp cyfeirio a fu’n helpu’r pwyllgor gyda’i ymchwiliad i Ddarparu Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc Anabl a’i adroddiad dilynol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2007.
Flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, maent yn dychwelyd i’r Senedd i ddweud wrth yr Aelodau a yw’r adroddiad a’i argymhellion wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywyd a sut y credant y gellir symud yr argymhellion ymlaen.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Ann Jones: “Rwy’n hynod falch bod y bobl ifanc wedi gallu dychwelyd at y Pwyllgor i ddweud wrthym pa wahaniaethau, os o gwbl, mae’r ymchwiliad a’r adroddiad wedi’u gwneud i’w bywyd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am rannu eu profiad â ni ac am yr holl gymorth y maent wedi ei roi i’r pwyllgor o ran cynhyrchu a lansio’r adroddiad flwyddyn yn ôl.
“Gan fod aelodau’r grwp i gyd yn tyfu ac yn symud ymlaen, hwn fydd y tro olaf i ni gyfarfod â’r grwp a hoffwn ddymuno’n dda iddynt yn y dyfodol.”
Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod yr Ymgyrch Cyflog Cyfartal gyda chynrychiolwyr o Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, TUC Cymru ac Unsain Cymru.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd rhwng 9.30am a hanner dydd.
Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor