Pobl ifanc i annerch y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Cyhoeddwyd 08/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pobl ifanc i annerch y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Bydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad yn derbyn tystiolaeth gan ddau grwp o bobl ifanc yn ei gyfarfod nesaf, ddydd Mercher, Gorffennaf 9fed, 2008.  

Bydd y grwpiau,  Gofalwyr Ifanc Rhondda a Thaf Elai a Chyfleuster Ieuenctid Tanyard ym Mhenfro yn rhoi tystiolaeth mewn cysylltiad ag ymchwiliad y Pwyllgor i dlodi plant yng Nghymru a bydd yn trafod materion megis Gwisgoedd Ysgol, Prydau Ysgol am ddim, Brecwast am ddim mewn Ysgolion a Theithiau Ysgol gydag aelodau’r pwyllgor.        

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Helen Mary Jones: “’Rwy’n edrych ymlaen at groesawu ein gwesteion ifanc i’r Senedd ar gyfer y cyfarfod hwn. Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn ymchwilio mater tlodi ymhlith plant yng Nghymru ac mae’n deg felly ein bod yn trafod y pwnc gyda phobl ifanc a allai gael eu heffeithio gan hyn fel ein bod yn cael darlun clir o’r hyn sy’n bwysig iddynt a’r pethau yr hoffent hwy eu gweld yn derbyn sylw. ‘Rwy’n sicr eu bod wedi gweithio’n galed ar eu hadroddiadau i’r pwyllgor a byddaf yn falch o glywed eu safbwyntiau.”

Yn dilyn y cyfarfod bydd y ddau grwp yn cael taith o gwmpas y Senedd.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 9:45am ddydd Mercher, Gorffennaf 9fed yn Ystafell bwyllgora 2, y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i ymchwiliad