Pobl ifanc nad ydynt yn gweithio nac mewn addysg ar agenda’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 12/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pobl ifanc nad ydynt yn gweithio nac mewn addysg ar agenda’r Cynulliad Cenedlaethol

12 Ionawr 2011

Ddydd Mercher 12 Ionawr, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad a fynegodd bryderon am briodolrwydd gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad yn ganlyniad ymchwiliad gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a ganfu bod diffyg arweinyddiaeth a chydweithio wedi arwain at wasanaethau sy’n gorgyffwrdd ac anrhefnus i’r bron i 70,000 o bobl ifanc sy’n 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.

Argymhellodd yr adroddiad y dylid sefydlu prif asiantaeth i gydlynu partneriaethau a chyfrifoldebau a rheoli taith pobl ifanc o’r naill gam i’r llall, ond roedd y Pwyllgor yn teimlo bod ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhelliad hwn yn aneglur.

Roedd yr adroddiad hefyd yn galw am ddatblygu strategaeth ar gyfer pawb yn y grwp 16 i 25 mlwydd oed, a thanlinellodd yr angen i adnabod y rhai sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn gynnar.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Er bod yr adroddiad yn cydnabod nad oes diffyg strategaethau yng Nghymru, mae’n credu y dylid eu gweithredu’n well er mwyn osgoi syndrom ‘y drysau troi’ - lle mae pobl ifanc yn cael eu gwthio o’r naill ddarparwr i’r llall heb wella’r sefyllfa.

“Mae’r Pwyllgor yn falch bod y Llywodraeth wedi ymateb yn adeiladol i’r adroddiad drwy dderbyn mwyafrif ein hargymhellion, ond mae’r ffaith bod cynifer o’n pobl ifanc yn cael eu hesgeuluso gan y system yn peri pryder mawr. Bydd angen i’r Llywodraeth weithredu’n gadarnhaol i newid y sefyllfa.

“Mae gweld niferoedd mawr o bobl ifanc yn gadael yr ysgol yn gynnar neu’n ddi-waith yn cael effeithiau niweidiol hirdymor ar economi Cymru, ac edrychaf ymlaen at glywed barn fy nghyd-Aelodau Cynulliad ar y mater hwn.”