Pobl ifanc yn yr ymchwiliad i Fesur Dysgu a Sgiliau yn pryderu am gludiant a dewis o gyrsiau
8 Mai 2012
Costau a’r ddarpariaeth o gludiant a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael sy’n pryderu pobl ifanc mewn addysg yng Nghymru yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi bod yn edrych ar weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd yn 2009 i sicrhau bod gan fyfyrwyr 14-19 oed fwy o ddewis o ran y cyrsiau y gallant eu dilyn.
Dyma’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth Cymru i gael ei archwilio gan Bwyllgor i asesu pa mor llwyddiannus y mae wedi bod.
Fel rhan o’i ymchwiliad, ymgynghorodd y Pwyllgor â phobl ifanc ledled Cymru i ganfod eu barn am y cyfleoedd sydd ganddynt.
Roedd rhai’n pryderu am y costau a’r pellter y mae’n rhaid iddynt ei deithio i ddilyn y cyrsiau y maent yn eu dewis. Dywedodd eraill nad oeddynt yn gallu dod o hyd i’r cwrs o’u dewis hwy drwy gyfrwng y Gymraeg ac nid oedd rhai yn gwybod y gallent fod wedi cael mwy o gymorth wrth ddewis.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, “Fel pwyllgor, rydym felly yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried a yw’r cydbwysedd cywir wedi cael ei sicrhau yn y gofyniad i gynnig 30 o gyrsiau.”
“Mae teithio a chludiant i’r cyrsiau yn amlwg yn faterion sy’n peri pryder i’r bobl ifanc y cysylltwyd â hwy, a hoffem weld pa mor bell y mae angen i’r myfyrwyr deithio i gyrraedd eu cwrs ac effaith hyn ar eu heffeithiolrwydd.
“Rydym yn pryderu na all pob person ifanc a’u rheini neu warchodwyr gael gafael ar gyngor llawn, agored a diduedd ynghylch y cyfleoedd dysgu a’r dewis o gyrsiau sydd ar gael yn eu hardaloedd ac rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a choleg gynhyrchu prosbectws ar y cyd sy’n cynnwys y cyngor diduedd hwnnw.
“Dywedwyd wrthym hefyd bod gwahaniaethau amlwg rhwng merched a bechgyn o ran dewis pynciau, gyda mwy o ferched na bechgyn yn dilyn rhai pynciau, ac fel arall, yn arbennig mewn colegau addysg bellach, a’r dewis o gyrsiau galwedigaethol yng Nghyfnod Allweddol 4.
“Mae’r Pwyllgor felly’n yn croesawu unrhyw ddatblygiadau newydd sy’n mynd i’r afael ag ystrydebau rhyw ac sy’n cynnig cyfle i ferched a bechgyn ddewis amrywiaeth ehangach o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd.”
Galwodd y Pwyllgor hefyd ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith gweithredu’r Mesur, yn arbennig o ran addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Mae’r Pwyllgor yn gwneud deg o argymhellion yn ei adroddiad.
Rhagor o wybodaeth am y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru)