#POWiPL – Cyfarfod Clymblaid Menywod mewn Democratiaeth y Cynulliad

Cyhoeddwyd 31/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

#POWiPL – Cyfarfod Clymblaid Menywod mewn Democratiaeth y Cynulliad

31 Mawrth 2014

Bydd Clymblaid Menywod mewn Democratiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar 1 Ebrill.

Sefydlwyd y Glymblaid o ganlyniad i ymrwymiad gan y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, fel rhan o'i hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus - #POWiPL.

Mae pob plaid wleidyddol sydd â chynrychiolaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi enwebu Aelod i fod yn rhan o'r Glymblaid, gyda'r Fonesig Rosemary yn cadeirio.

Y nod yw trafod arfer gorau, yn arbennig gan seneddau eraill o bob cwr o'r byd, er mwyn cynyddu'r gynrychiolaeth seneddol o fenywod.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: “Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi perfformio'n weddol dda o ran y gynrychiolaeth o fenywod.

“Ar un adeg, roedd aelodaeth y Cynulliad wedi'i rhannu'n gyfartal rhwng dynion a menywod, ond mae'r nifer wedi dirywio mewn etholiadau diweddar.

“Mae'r Cynulliad yn rhif naw yn y byd o hyd o ran y gynrychiolaeth o fenywod, ond mae San Steffan yn enghraifft o'r daith hir sydd o'n blaenau o hyd o ran cynyddu'r gynrychiolaeth seneddol o fenywod.

“Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae angen inni ddysgu am y dulliau y mae seneddau a phleidiau gwleidyddol o bob cwr o'r byd yn eu defnyddio i annog a sicrhau'r gynrychiolaeth o fenywod.”

Ddydd Mawrth, bydd y daith honno'n cychwyn gyda sesiwn dystiolaeth â:

  • Dr Ruth Fox - Cyfarwyddwr Cymdeithas Hansard, a fydd yn trafod y themâu yn adroddiad 2010, gan archwilio'r cynnydd a wnaed o ran gwella'r gynrychiolaeth o fenywod yn y deddfwrfeydd datganoledig dros y ddegawd ddiwethaf.

  • Adele Baumgardt – ymgynghorydd annibynnol sydd wedi gwneud gwaith ymchwil i'r British Council ar rôl Seneddwyr yng nghyd-destun cydraddoldeb.

Bydd y Glymblaid hefyd yn ceisio darganfod:

  • a yw seneddau sydd â chynrychiolaeth gref o ran menywod yn creu polisïau a deddfwriaeth wahanol o ganlyniad i'r gynrychiolaeth gadarnhaol honno;

  • anghenion bugeiliol menywod sy'n wleidyddion; a

  • beth all Comisiwn y Cynulliad ei ddysgu ac yna pennu meincnodau o ganlyniad i hynny.

Dyma aelodau'r Glymblaid: y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd), Jocelyn Davies AC, Rebecca Evans AC, Eluned Parrott AC, Antoinette Sandbach AC.