#POWiPL – cynllun datblygu newydd i roi help llaw i fenywod Cymru sicrhau swyddi cyhoeddus

Cyhoeddwyd 09/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn cymryd rhan yng Nghynllun Datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, eu cyhoeddi heddiw (9 Hydref).

Bydd 15 o fentoriaid a 15 o fentoreion, o ledled Cymru, yn ymuno â'r Fonesig Rosemary, wrth iddi lansio'r cynllun yn swyddogol.

Nod y cynllun yw annog rhagor o fenywod i wneud cais am benodiadau cyhoeddus a rolau eraill mewn bywyd cyhoeddus, drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer mentora, cyfleodd i gysgodi pobl mewn rolau penodol, a chyfleoedd i hyfforddi.

Enillodd Chwarae Teg, yr elusen cyfle cyfartal, ac Ysgol Fusnes Caerdydd, y tendr ar y cyd i gynnal y prosiect ar ran y Cynulliad.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Hoffwn longyfarch y 30 o fenywod sy'n cymryd rhan yn fy Nghynllun Datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus.

"Gobeithio mai hwy fydd yr arloeswyr ac y bydd y momentwm yn adeiladu yn sgil y cynllun ac yn gwthio Cymru tuag at fod yn gymdeithas lle caiff menywod eu cynrychioli'n gyfartal mewn bywyd cyhoeddus.

"Mae gennym 15 o fenywod sydd eisoes yn datblygu yn eu meysydd o ddewis, a 15 o fenywod sy'n barod i gymryd y cam nesaf i gyrraedd eu potensial llawn.

"Nod fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus yw sicrhau bod menywod yn datblygu'n effeithiol ac yn mynd ymlaen i rolau sy'n aml yn cael dylanwad uniongyrchol ar fywydau pobl ledled Cymru."

Bydd mentoriaid a mentoreion, cynrychiolwyr o Chwarae Teg, Prifysgol Caerdydd a gwesteion eraill yn ymuno â'r Llywydd mewn lansiad yn y Senedd ar 9 Hydref am 12.30.

Dywedodd Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg, yr elusen sy'n helpu i greu Cymru lle mae menywod yn cyflawni ac yn llwyddo: "Mae'n bleser gweithio gyda'r Llywydd, ein partneriaid a'r mentoriaid a'r mentoreion ar fenter mor bwysig.

"Mae'n arbennig o bwysig yn y cyfnod ariannol heriol hwn y caiff menywod eu cynrychioli yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru a chredwn y gall y rhaglen fentora wneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig i nifer y menywod o amgylch y bwrdd ond i'r hyn a gaiff ei drafod, sut y caiff ei drafod a'r penderfyniadau a gaiff eu gwneud yn y pen draw."