#POWiPL – Meera Vijayann i roi darlith yn y Pierhead ar drais rhywiol yn erbyn menywod a hawliau menywod

Cyhoeddwyd 13/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Bydd Meera Vijayann, newyddiadurwraig ag ymgyrchydd enwog dros hawliau menywod ym mhob cwr o'r byd, yn rhoi darlith yn y Pierhead ar 20 Tachwedd.

Mae'r ddarlith yn rhan o ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus (#POWiPL) y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad.

Mae sesiwn Meera Vijayann yn un o gyfres o ddarlithoedd a ddarperir gan fodelau rôl benywaidd ysbrydoledig o sectorau gwahanol sy'n draddodiadol yn cynnwys dynion yn bennaf.

Bydd yn canolbwyntio ar sut y gall menywod gael eu grymuso gan yr oes ddigidol yr ydym yn byw ynddi i ysgogi newid a lleisio eu barn.

"Drwy gamu ymlaen a mynegi barn, gall menywod greu symudiad byd-eang tuag at sicrhau byd heb wahaniaethu, trais ac ofn," dwedodd Ms Vijayann.

"Drwy gymryd rhan mewn dadl ar-lein a mynegi barn, gall menywod greu symudiad byd-eang drwy ddileu ystrydebau, annog trafodaeth a chymryd rhan mewn newid."

Mae siaradwyr blaenorol yn narlithoedd #POWiPL wedi cynnwys Janet Street-Porter, darlledwraig a sylwebydd, Shami Chakrabarti, Cyfarwyddwraig Liberty, sef y grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau sifil, a'r Farwnes Susan Greenfield, sy'n wyddonydd blaenllaw.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad: "Mae'n anrhydedd cael croesawu Meera Vijayann i siarad gyda ni am yr ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

"Rydym wedi gweld enghreifftiau dychrynllyd o droseddau rhywiol yn erbyn menywod ar y newyddion; troseddau sy'n gwylltio pob un ohonom.

"Mewn rhai rhannau o'r byd, gall mynegi barn yn erbyn anfadwaith o'r fath weithiau eich rhoi mewn perygl.

"Dyna pam fod yn rhaid inni dalu teyrnged i fenywod fel Meera sy'n dangos inni fod angen i bob un ohonom sefyll i fyny a chael ein cyfrif pan ddaw i faterion sy'n ymwneud â thrais rhywiol a chydraddoldeb rhwng y rhywiau.

"Mae grymuso ac annog menywod i fod yn rhan o fywyd cyhoeddus yn rhan o hynny, a dyna brif thema fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus."

Bydd y ddarlith yn dechrau am 18.00 ar 20 Tachwedd.

Mae rhai lleoedd ar gael o hyd, a gellir eu harchebu drwy anfon neges at archebu@cymru.gov.uk neu drwy ffonio 0845 010 5500 / 01492 523200.