Prifysgol y Drydedd Oes yn mwynhau ymweliad â'r Senedd

Cyhoeddwyd 28/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/04/2015

​Bu aelodau U3A, Prifysgol y Drydedd Oes yn Abertawe,  ar ymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd i ymgysylltu â gwaith y Cynulliad.

Mae U3A yn sefydliad hunan-gymorth ar gyfer pobl nad ydynt bellach mewn gwaith llawn amser. Mae'n darparu cyfleoedd addysgol, creadigol a hamdden mewn amgylchedd cyfeillgar. 

Trefnwyd yr ymweliad â'r Senedd yn dilyn cyflwyniad a ddarparwyd gan Kevin Davies, Rheolwr Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol, ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Hydref.

Gwyliodd aelodau U3A Abertawe gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cyfarfod â Bethan Jenkins AC, Aelod Cynulliad rhanbarthol Gorllewin De Cymru, cyn cael taith o amgylch y Senedd a gwylio Aelodau'r Cynulliad yn trafod ac yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog.

Dywedodd Eluned Evans, Trysorydd U3A Abertawe:

"Bu'n ddiwrnod llawn gwybodaeth i aelodau U3A Abertawe a rhoddodd well dealltwriaeth inni o waith y Cynulliad".

Os oes gan eich grŵp ddiddordeb mewn trefnu ymweliad â'r Senedd, neu weithdy yn eich ardal, ffoniwch 0300 200 6565.