Mae prinder dehonglwyr a chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yn rhwystr sylweddol i lwyddiant cyfraith arfaethedig i wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus i bobl Fyddar, yn ôl Pwyllgor yn y Senedd.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn dadansoddi newid arfaethedig yn y gyfraith a gyflwynwyd gan Mark Isherwood AS, sef y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).
Nod y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Byddai'n sefydlu dyletswyddau ar gyfer Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus, yn ogystal â phenodi Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain i gefnogi’r broses o’i gweithredu.
Un o brif effeithiau'r gyfraith fyddai ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyhoeddi cynlluniau Iaith Arwyddion Prydain ar sut maent yn bwriadu hyrwyddo defnyddio'r iaith.
Fodd bynnag, mae adroddiad heddiw yn canfod, heb fuddsoddiad uniongyrchol a chynaliadwy mewn hyfforddi, recriwtio a chadw dehonglwyr a chyfieithwyr, efallai na fydd uchelgeisiau'r gyfraith arfaethedig hon yn cael eu cyflawni.
Prinder dehonglwyr
Dysgodd y Pwyllgor mai dim ond 54 o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain cofrestredig sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a fyddai ymhell o gyrraedd y galw disgwyliedig.
Rhybuddiodd cyrff cyhoeddus, sefydliadau proffesiynol a chymunedau Byddar fod y gweithlu dehonglwyr a chyfieithwyr presennol dan bwysau mawr, gyda llawer yn wynebu ymddeoliad ac ychydig o lwybrau clir i ddehonglwyr newydd ymuno â'r proffesiwn.
Rhybuddiodd Cymdeithas y Dehonglwyr Iaith Arwyddion (ASLI), Cofrestrau Cenedlaethol o Weithwyr Proffesiynol Cyfathrebu, a chynrychiolwyr llywodraeth leol y gallai galw cynyddol arwain at oedi a chostau uwch wrth i sefydliadau gystadlu am yr un gronfa fach o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain.
Hyfforddiant a recriwtio
Arweiniodd hyn y Pwyllgor i’r casgliad mai‘r bygythiad unigol mwyaf i weithredu’n effeithiol yw prinder cyfieithwyr a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Dywed fod hyn yn galw am weithredu brys a pharhaus.
Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu drwy osod targedau blynyddol 'clir ac uchelgeisiol' ar gyfer hyfforddi a recriwtio.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Gallai’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), os caiff ei gyflwyno’n drylwyr, gyflwyno newid gwirioneddol a pharhaol. Mae'n cynrychioli carreg filltir bwysig yn yr ymdrechion i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith a diwylliant ar wahân.
“Fodd bynnag, prinder cyfieithwyr a dehonglwyr yng Nghymru yw’r bygythiad mwyaf i lwyddiant y gyfraith arfaethedig hon. Mae gweithlu presennol y dehonglwyr yn rhy fach ac mae disgwyl i rai fod yn ymddeol tra bod disgwyl i'r galw gynyddu'n sylweddol.
“Oni bai bod camau brys a pharhaus yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffyg hwn, mae risg wirioneddol y bydd arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain Byddar yn parhau i wynebu rhwystrau annerbyniol.
“Gallai’r cynigion hyn fod yn drawsnewidiol, ond er mwyn cyrraedd y potensial hwnnw rhaid cymryd y pryderon rydym yn eu codi heddiw o ddifrif a gweithredu arnynt ar frys.”
Mae disgwyl i’r cynigion gael eu trafod gan y Senedd ar 17 Rhagfyr. Yn ystod y sesiwn hon cynhelir pleidlais hefyd ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r cynlluniau, gan eu gwneud gam yn nes at ddod yn gyfraith. Mae'r Pwyllgor yn argymell pleidleisio o blaid y Bil yn symud ymlaen i'r cam nesaf.