Pryderon difrifol ynghylch perfformiad bargeinion twf Cymru

Cyhoeddwyd 17/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/09/2025

Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi codi pryderon difrifol ynghylch perfformiad bargeinion twf rhanbarthau a dinesig Cymru, yn enwedig Bargen Twf y Gogledd a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Bargen Twf y Gogledd wedi cael trafferthion ar ôl i un o'i phrosiectau allweddol, Trawsfynydd, fynd i’r gwellt. Hyd yn hyn, mae’r cytundeb wedi creu 35 o swyddi yn unig ac mae angen ei weddnewid ar frys os yw am gyflawni er lles pobl gogledd Cymru. Yn y cyfamser, mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch lefel y cyllid sydd ei angen i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ailddatblygu gorsaf bŵer Aberddawan, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar gyllid cyhoeddus.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn annog monitro agosach o fuddsoddiadau ym mhedair bargen twf rhanbarthau a dinesig Cymru, sydd yn gyfrifol am gyfran sylweddol o gyllid cyhoeddus.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd:

“Dylai’r pedair bargen ddinesig a thwf fod yn sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru, gan greu dyfodol economaidd disglair. Er bod arwyddion addawol, yn enwedig ym Mae Abertawe, rhaid inni fynd i'r afael â phryderon difrifol, yn enwedig yng Ngogledd Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eglurder ar frys ynghylch y cyllid sydd ar gael ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

“Mae monitro priodol ac arweinyddiaeth gyson yn hanfodol i sicrhau bod pob Bargen yn cael ei chefnogi i gyrraedd y targedau uchelgeisiol ac i gyflawni o ran y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol. Mae tryloywder, eglurder a gweledigaeth hirdymor yn hanfodol.”

'Asesiad iechyd'

Yn ystod tymor yr haf 2025, ceisiodd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Bargeinion a rhanddeiliaid i gynnal 'asesiad iechyd' cyflym o gynnydd. Mae'r llythyr yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymateb i'r materion a godwyd ac amlinellu sut y byddant yn cefnogi'r Bargeinion yn y dyfodol.

Cynllun Twf y Gogledd

Mynegodd y Pwyllgor bryderon difrifol ynghylch Bargen Twf y Gogledd, sydd ymhell o gyrraedd y targedau ar gyfer creu swyddi a buddsoddi gan y sector preifat. Mae penderfyniad Great British Nuclear i beidio ag ystyried Trawsfynydd fel safle ar gyfer Adweithyddion Modiwlar Bach wedi cael effaith fawr, gan fod y prosiect, yn wreiddiol, i fod i ddarparu 12.5% o dargedau swyddi a 40% o’r nodau buddsoddi. Yn ôl Uchelgais Gogledd Cymru, dim ond 35 o swyddi sydd wedi cael eu hyd yma ac ni chafwyd ond £1.8 miliwn mewn buddsoddiadau gan y sector preifat. Mae'r Pwyllgor yn galw am eglurder ar frys ynghylch cyllid ac am adolygiad o brosesau gwneud penderfyniadau.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn wynebu heriau mawr o ran ailddatblygu safle gorsaf bŵer Aberddawan. Arweiniodd anghydfod caffael at setliad o £5.25 miliwn ac mae adolygiad annibynnol ar y gweill. Mae’n bosibl y bydd angen dros £1 biliwn i ddatblygu'r safle, a brynwyd am £8.6 miliwn gyda £30 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith dymchwel. Er gwaethaf diddordeb cryf o du buddsoddwyr, mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch maint y cyllid sydd ei angen a'r effaith bosibl ar gyllid cyhoeddus.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Croesawodd y Pwyllgor gynnydd ym Mae Abertawe, gyda 896 o swyddi wedi'u creu a £133 miliwn mewn buddsoddiad preifat. Gwnaeth yr Aelodau ganmol cefnogaeth y Fargen i weithwyr Port Talbot a Tata Steel. Fodd bynnag, codwyd pryderon ynghylch effeithiau chwyddiant a'r diffyg hyblygrwydd mewn cyllid o'i chymharu â Bargeinion eraill.

Bargen Dwf Canolbarth Cymru

Fel y Fargen ddiweddaraf, mae Canolbarth Cymru newydd ddechrau ar ei chyfnod cyflawni. Nododd y Pwyllgor yr heriau economaidd unigryw mae’n eu hwynebu a phenderfyniad y Fargen i beidio â throsglwyddo rheolaeth i Gyd-bwyllgor Corfforedig. Bydd y Pwyllgor yn monitro'r dull llywodraethu hwn ac yn annog llywodraethau i wneud yr un peth.

Mwy am y stori yma 

Dysgwch fwy am waith y Pwyllgor ar y pwnc