Pryderon difrifol ynghylch rhestrau aros yn cronni ar gyfer apwyntiadau dilynol cleifion allanol

Cyhoeddwyd 31/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Heddiw, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi adroddiad yn trafod y gwaith o reoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor wedi amlinellu pryderon difrifol ynghylch diffyg cynnydd byrddau iechyd o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau dilynol cleifion allanol. Yn nodweddiadol, mae apwyntiadau dilynol ar gyfer cleifion allanol yn digwydd gyda chleifion y mae arnynt angen adolygiad ar ôl llawdriniaeth, rheoli cyflyrau cronig neu gadw golwg arnynt, neu fonitro ar gyfer arwyddion o ddirywio.

Ar 31 Hydref 2018, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar reoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru. Roedd yr adroddiad yn deillio o adolygiadau dilynol a gynhaliwyd ar lefel leol yn 2015.

Mae'r Pwyllgor wedi clywed llawer o sylwadau cadarnhaol gan fyrddau iechyd am y mesurau sy'n cael eu cymryd ers i'r Archwilydd Cyffredinol ddatgelu methiannau difrifol yn 2015, ond ers hynny mae'r sefyllfa wedi gwaethygu mewn rhai ardaloedd.

Clywodd y Pwyllgor sut y ceir rhestrau aros helaeth, a chlywodd nad yw pob corff iechyd yn adrodd data yn gywir ac nad oes digon o graffu ar hyd amseroedd aros.

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gadarnhaol hefyd ynghylch sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i ganiatáu monitro a diagnosis o bell, a sut mae gwasanaethau'n cael eu symud i'r gymuned. Mae hyn yn gwneud pethau'n symlach i gleifion gan eu bod yn cael eu trin heb orfod teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty. Fodd bynnag, nid oedd hyn yr un fath ar draws ardaloedd pob bwrdd iechyd, ac mae'n ymddangos nad yw arfer gorau yn cael ei rannu'n gyson.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi nodi 10 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut i wella'r gwaith o reoli cleifion allanol.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

"Rydym yn bryderus iawn nad yw'r sefyllfa ynglŷn â chleifion allanol yn ymddangos i fod yn gwella, a bod y darlun yn un cymysg ar draws Cymru. Gall achosion o oedi yn yr apwyntiadau hyn roi cleifion mewn perygl o niwed. Dylai cleifion allanol ledled Cymru ddisgwyl yr un gwasanaeth, lle bynnag y maent yn byw.

"Mae anghysondeb y gwasanaeth ledled Cymru yn thema gyffredin mewn ymchwiliadau iechyd yr ydym wedi'u hystyried. Dro ar ôl tro, gwelsom nad yw byrddau iechyd yn dysgu gwersi oddi wrth ei gilydd nac yn dilyn arfer gorau.

"Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cleifion yn y sefyllfa orau i werthuso lefel y boen, neu roi gwybod a oes ganddynt unrhyw bryderon - a hoffem weld y GIG yn defnyddio'r wybodaeth hon i ofalu am y rhai sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf a lleihau apwyntiadau diangen.

"Yn aml, mae pobl yn trefnu apwyntiad dilynol gan mai dyna'r ffordd yr oedd hi erioed. Drwy wrando ar gleifion a defnyddio technoleg, gallwn sicrhau bod cleifion sydd â'r angen mwyaf yn cael eu gweld yn gyntaf a bod adnoddau'r GIG yn cael eu defnyddio fwyaf effeithiol.

"Mae ein hadroddiad heddiw yn amlinellu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru gyda gwelliannau y gall byrddau iechyd eu gwneud."

Darllen yr adroddiad llawn: