Pwy ddylai fod yn gyfrifol am yr ardollau i hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru? Cyfle i ddweud eich dweud.
23 Hydref 2009
Ydych chi’n credu mai Gweinidogion Cymru ddylai benderfynu sut y caiff yr ardollau cig coch eu casglu a’u defnyddio yng Nghymru?
Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wrthi’n craffu ar y Mesur Arfaethedig ynghylch y Diwydiant Cig Coch (Cymru).
Mae’r Pwyllgor bellach yn awyddus i glywed gan bawb sydd â diddordeb yn y maes fel rhan o’r broses graffu honno.
Mae pobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant cig coch ym mhob cwr o Gymru, a dyna pam fod hwn yn Fesur mor bwysig,” meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Bydd y Mesur arfaethedig yn rhoi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru foderneiddio’r modd y caiff y diwydiant ei hyrwyddo a’i farchnata yn y dyfodol”.
“Dyna pam ein bod yn awyddus i glywed gan bob rhan o’r diwydiant – gan ffermwyr a lladd-dai, cynhyrchwyr a chwmnïau prosesu – er mwyn clywed eu barn am y Mesur arfaethedig.”
Bydd y Mesur arfaethedig yn gwneud Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol atebol am y diwydiant cig coch. Y nod yw parhau â’r trefniadau rheoli presennol, ond gan gyflwyno trefniant dirprwyo newydd rhwng Gweinidogion Cymru a Hybu Cig Cymru, er mwyn i HCC barhau i weithredu fel ag y mae ar hyn o bryd. Bydd y Mesur yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru dros y modd y defnyddir yr ardollau cig coch a’r trefniadau cysylltiedig yng Nghymru.
Rhowch eich barn drwy:
- anfon e-bost i APSLegislationCommitteeNo3@wales.gsi.gov.uk
- ysgrifennu at Ruth Hatton, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA
NODIADAU I OLYGYDDION:
1) I gael rhagor o fanylion am yr ymchwiliad, ewch i http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/bus-legislation-measures-proposed_redmeat.htm
2)Dylai unrhyw argymhellion ein cyrraedd erbyn 13 Tachwedd 2009. Ni allwn ystyried unrhyw ymateb a dderbynir wedi’r dyddiad hwn.