Heddiw, cyhoeddwyd Adolygiad Annibynnol Undeb Rygbi Cymru, gan y corff llywodraethu ar ol honiadau o gasineb at fenywod, homoffobia a hiliaeth.
Yn ymateb i'r adroddiad, dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd:
“Hir fu’r ymaros am yr adroddiad hwn ac rydym yn croesawu’r ffaith ei fod wedi’i gyhoeddi. Roedd y straeon gofidus a glywsom yn gynharach eleni yn dangos na chafodd yr honiadau o gasineb at fenywod, homoffobia a gwahaniaethu ar sail hil eu nodi, ac na wnaed unrhyw beth yn eu cylch – methiant difrifol o ran llywodraethu ar frig y sefydliad. Rydym yn falch bod yr Undeb yn ymrwymo i ddatrys y problemau hyn.
“Nid yw’r adroddiad yn cynrychioli, ac ni ddylai gynrychioli, diwedd y stori – ond bydd, gobeithio, yn garreg filltir bwysig ar lwybr Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod rygbi yn croesawu pobl o bob cefndir, a bod lleoedd yn cael eu creu lle mae’r bobl hynny’n teimlo’n ddiogel.
"Fel Pwyllgor, rydym yn benderfynol o sicrhau y gall unrhyw un gymryd rhan neu weithio mewn chwaraeon yng Nghymru heb ofni rhagfarn neu wahaniaethu.
“Ym mis Chwefror eleni, gwnaeth Nigel Walker, Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, addewid i’r Pwyllgor y byddai’r Undeb yn gweithredu argymhellion yr adroddiad yn llawn.
"Gwnaethom groesawu’r ymrwymiad hwn, ac edrychwn ymlaen at drafod ymateb yr Undeb i’r adroddiad, a’r camau y mae wedi’u cymryd ers darlledu rhaglen ddogfen y BBC ym mis Ionawr, a hynny cyn gynted â phosibl.”
Gallwch ddarllen waith blaenorol y Pwyllgor ar y testun yma.