Mae cyflwyno System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (SWGCC) yn cymryd llawer mwy o amser ac ar gost uwch na'r disgwyl, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae’r SWGCC yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (GGGC) ar draws y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol. Y nod yw caniatáu i weithwyr rhoi’r gorau i ddefnyddio cofnodion papur a throi at gofnod electronig, er mwyn gallu rhannu gwybodaeth a darparu gwasanaethau mwy effeithlon.
Yn ôl adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, sy’n cael ei gyhoeddi ar ddydd Iau 15 Hydref, mae gallu’r system wybodaeth i ddarparu gwasanaeth integredig yn cael ei gyfyngu am fod sefydliadau yn dewis defnyddio’r system mewn gwahanol ffyrdd, ac mae hynny’n codi cwestiynau ynghylch gwerth am arian.
Mae cost cyflwyno’r system hefyd yn uwch na'r disgwyl. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gwario, neu wedi ymrwymo, £30 miliwn hyd at fis Mawrth 2022, ond mae costau eraill wedi eu talu o gyllidebau'r byrddau iechyd ac awdurdodau lleol.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, Nick Ramsay AS, fod y pryderon yn adleisio cynnwys adroddiad y Pwyllgor ar Systemau Gwybodeg GIG Cymru ym mis Tachwedd 2018:
“Fwy na phum mlynedd ers dechrau’r contract, mae’r adroddiad yma gan yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi darlun pryderus o’r gwaith i gyflwyno a gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru, sydd wedi’i hyrwyddo fel yr elfen ddigidol allweddol yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Dyw hi ddim yn dasg hawdd dod â'r holl sefydliadau at ei gilydd i gefnogi’r system.
“Fodd bynnag, mae’r materion a godwyd yn ein hatgoffa o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sef Systemau Gwybodeg GIG Cymru ym mis Tachwedd 2018, a oedd yn cynnwys pryderon ynghylch oedi, ynghylch perfformiad y system ac yn gofyn a oes angen cael un system er mwyn cyflawni'r amcan polisi sylfaenol.
“Bydd y Pwyllgor yn ystyried System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ddechrau mis Tachwedd pan fydd yn clywed gan Lywodraeth Cymru am ddatblygiadau ar draws gwasanaethau gwybodeg ehangach y GIG.”
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn gyfrifol am edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario ei chyllideb i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael y gwerth gorau posibl am arian.
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar gael yma.
Ym mis Mai 2020,
cyhoeddodd y Pwyllgor y byddai’n ailedrych ar faterion yn ymwneud â Gwybodeg y
GIG yn yr hydref. Ail-gododd pryderon y Pwyllgor am y systemau ym mis Mai pan
ddatgelwyd bod dau fwrdd iechyd yn tangofnodi nifer y marwolaethau o ganlyniad
i’r coronafeirws yn eu hardaloedd.