Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25 gerbron y Senedd.
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn dechrau ei waith craffu manwl ar y Gyllideb Ddrafft drwy glywed tystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yng nghyfarfod yfory am 9.30am.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn cynnal sesiynau tystiolaeth gyda sefydliadau amrywiol megis y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn y flwyddyn newydd i gael y ddealltwriaeth orau o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.
Cyn y sesiynau tystiolaeth, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:
“Bydd y Pwyllgor yn defnyddio’r sesiynau tystiolaeth sydd i ddod i edrych o dan foned y Gyllideb Ddrafft i weld a yw cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu rhethreg y Gweinidog, yn ogystal â blaenoriaethau’r Senedd.
“Mae Cymru yn wynebu sefyllfa economaidd anodd ac ansicr, ac fel Pwyllgor, rydym am edrych ar y Gyllideb Ddrafft yn fanwl i weld a yw’r cynigion yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac a oes modd eu gwella.
"Rydym hefyd am wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei nodau i gefnogi cartrefi, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau i ymdopi â’r argyfwng costau byw ac effaith chwyddiant uchel.”
Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft ddydd Llun 5 Chwefror gyda pwyllgorau eraill y Senedd hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ar effaith y Gyllideb Ddrafft ar eu meysydd priodol ar yr un dydd.
Mae amserlen lawn y broses graffu ar y gyllideb ar gael yma.