Pwyllgor Cynaliadwyedd i barhau i gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i Leihau Gollyngiadau Carbon
Bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn clywed tystiolaeth gan Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y mae’n parhau â’i ymchwiliad i Leihau Gollyngiadau Carbon yng Nghymru, yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 24 Ionawr.
Bydd Aelodau’n clywed tystiolaeth gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ieuan Wyn Jones mewn perthynas â lleihau gollyngiadau carbon o drafnidiaeth, a chan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson mewn perthynas â lleihau gollyngiadau carbon o gartrefi.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod goblygiadau Mesur Newid yn yr Hinsawdd y DU a Mesur Cynllunio’r DU i Gymru.
Cynhelir y cyfarfod am 9.00am ddydd Iau 24 Ionawr yn Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd, Bae Caerdydd.
Rhagor o fanylion am y Pwyllgor a’i ymchwiliad