Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cefnogi Deddfwriaeth sydd wedi’i Anelu at Wella Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion

Cyhoeddwyd 06/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cefnogi Deddfwriaeth sydd wedi’i Anelu at Wella Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion

Heddiw cyhoeddodd Pwyllgor y Cynulliad ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion (DYDD LLUN 6 HYDREF) ei adroddiad ar gynigion deddfwriaethol sydd wedi’u hanelu at wella bwyta’n iach mewn ysgolion ar draws Cymru.

Mae’r adroddiad yn nodi bod angen deddfwriaeth ar fwyta’n iach mewn ysgolion, ac mae’n egluro y dylid symud y ddeddfwriaeth ymlaen heb oedi.

Sefydlwyd y pwyllgor ym mis Ebrill 2008 er mwyn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion (Cymru) 2008, ac adrodd arnynt.  Y Mesur arfaethedig oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gael ei gyflwyno gan aelod mainc gefn (Jenny Randerson AC) o dan bwerau deddfu newydd y Cynulliad.

Byddai’r Mesur arfaethedig, ymhlith pethau eraill, yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru, cyrff llywodraethu, penaethiaid ac awdurdodau addysg lleol i hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion ac i wneud bwyta’n iach yn rhan o drefniadau arolygu ysgolion.  Byddai hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau maeth mewn bwyd a diod a ddarperir ar gyfer disgyblion ar fangre ysgol.

Bu’r pwyllgor yn ystyried yr angen am ddeddfwriaeth o’r fath a’i amseriad, a bu hefyd yn archwilio’r darpariaethau allweddol a oedd wedi’u cynnwys yn y Mesur arfaethedig er mwyn canfod a oeddynt yn briodol ac yn ymarferol.  Er mwyn llywio’i waith, cynhaliodd y pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn ceisio barn disgyblion ysgol drwy Gymru gyfan a chlywodd dystiolaeth lafar gan randdeiliaid allweddol.

Yng nghwrs ei waith, canfu’r pwyllgor bod mwyafrif llethol y rhai a roddodd dystiolaeth yn cydnabod y rhan bwysig y mae ysgolion yn ei chwarae o ran annog bwyta’n iach.

Yn ei adroddiad, mae’r pwyllgor yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth y Cynulliad ym maes bwyta’n iach, yn enwedig drwy ei fenter Blas am Oes.  Fodd bynnag, mae’n mynegi pryder ynghylch y diffyg cysondeb sy’n bodoli o ran annog bwyta’n iach ar draws ysgolion Cymru.

Yn ychwanegol at hyn, mae’r pwyllgor yn argymell y dylid cryfhau rhai o’r darpariaethau yn y Mesur arfaethedig mewn perthynas â chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.  Mae hefyd yn argymell bod gofyniad yn cael ei roi ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â safonau maeth uwch.

Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, Kirsty Williams AC: “Mae bwyta’n iach mewn ysgolion wedi bod yn gweithio’i ffordd i fyny’r agenda cymdeithasol a gwleidyddol ers peth amser.

“Er ein bod yn croesawu’r ymrwymiad a ddangosir gan weithwyr proffesiynol ym maes addysg ac iechyd o ran hyrwyddo’r agenda bwyta’n iach, ni allwn anwybyddu’r amrywiaeth arwyddocaol sy’n bodoli yn nhrefniadau ac arferion ar draws ysgolion Cymru.

“Pe bai ysgolion i gyd cystal â’r rhai gorau o ran cyfleu’r neges i ddisgyblion a rhieni am bwysigrwydd bwyta’n iach, ac o ran darparu prydau ysgol maethlon, efallai na fyddai angen deddfwriaeth o’r fath.

“Fodd bynnag, os ydym am i blant Cymru i gyd allu elwa o gychwyn iach, yna credwn fod angen agwedd mwy cadarn.   I’r perwyl hwn, mae’r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig yn unfrydol.

“Yr ydym yn cydnabod y pryderon a godwyd gan rai rhanddeiliaid ynghylch goblygiadau ymarferol ac ariannol gweithredu’r ddeddfwriaeth, ond hyderwn y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r materion hyn ac yn rhoi cymorth digonol i’r rhai perthnasol er mwyn sicrhau llwyddiant y Mesur arfaethedig.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Mesur arfaethedig a’r broses ddeddfu

Nodyn i’r golygyddion

Bydd Jeff Cuthbert AC ar gael ar gyfer cyfweliad ddydd Gwener 3 Hydref.

Cyfnodau nesaf ystyriaeth y Mesur fydd:

  • Cyfnod 1 – dadl yn y Cyfarfod Llawn i geisio cytundeb y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig (disgwylir ganol mis Hydref 2008)

  • Cyfnod 2 – Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl: mewn pwyllgor;

  • Cyfnod 3 –Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd, yn fanwl yn y Cyfarfod Llawn;

  • Cyfnod 4 – pleidlais gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn i basio testun terfynol y Mesur arfaethedig.