Pwyllgor Cynulliad i edrych ar adolygiadau’r GIG
21 Hydref 2010
Cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (20 Hydref) y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r modd y caiff adolygiadau’r GIG eu cynnal yng Nghymru a sut yr ymgynghorir â’r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i lywio’r broses adolygu.
Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar adolygiadau a gynhelir ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i lawfeddygaeth gyffredinol frys a gwasanaethau mamolaeth ac iechyd plant drwy’r rhanbarth.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae hwn yn fater pwysig a daw i’n sylw mewn cyfnod o bryder cyffredinol ymhlith y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau yng ngogledd Cymru.
“Un o’r pethau y byddwn yn edrych arnynt yw sut y caiff yr adolygiadau hyn eu cynnal, sut yr ymgysylltir â rhanddeiliaid, a sut yr ymgynghorir â hwy, ac i ba raddau y mae eu safbwyntiau hwy’n llywio argymhellion ar gyfer y dyfodol?
“Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at gyflwyno adroddiad ar ganfyddiadau’r ymchwiliad hwn.”