Pwyllgor Cynulliad i graffu ar sut mae pwerau yn cael eu trosglwyddo o Senedd y DU

Cyhoeddwyd 03/08/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Pwyllgor Cynulliad i graffu ar sut mae pwerau yn cael eu trosglwyddo o Senedd y DU   3 Awst 2011 im0Bydd ymchwiliad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar sut mae pwerau yn cael eu rhoi i Weinidogion Llywodraeth Cymru gan Senedd y DU. Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gofyn i bobl a sefydliadau ddweud wrtho beth yw eu barn am y prosesau a’r gweithdrefnau craffu sydd eisoes ar waith a pa un a ellid eu ehangu neu eu wella. “Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol yn Refferendwm mis Mawrth, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn gallu llunio cyfreithiau yn yr 20 maes datganoledig, fel y rhai sy’n effeithio ar ein hysgolion ac ysbytai,” meddai David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Dirprwy Lywydd. “Ond o dan Ddeddfau Llywodraeth y DU a phrosesau eraill, gellir parhau i roi pwerau eraill i Weinidogion Cymru os yw’r ddeddfwriaeth arfaethedig hefyd yn cwmpasu materion a ddatganolwyd eisoes i Gymru. “Ar hyn o bryd, nid yw’r pwerau hynny yng Nghymru yn destun yr un math o graffu ag yw Biliau sy’n cael eu rhoi gerbron y Cynulliad. “Bydd y Pwyllgor felly yn edrych yn benodol ar y ffordd y caiff y Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ei gymhwyso, ar yr arweiniad technegol ar gyfer Adrannau Whitehall a nodwyd yn y Nodiadau Cyfarwyddyd Datganoli ac ar y prosesau ar gyfer cytuno ar gydsyniad deddfwriaethol drwy Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.” Mae’r Pwyllgor eisiau barn yn benodol ar: Hyd a lled gwaith craffu presennol y Cynulliad Cenedlaethol ar bwerau dirprwyedig a roddir i Weinidogion Cymru drwy ddarpariaethau yn Neddfau’r DU a drwy fecanweithiau statudol eraill;  Y graddau mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu craffu’n gadarn ar brosesau o’r fath drwy ei Reolau Sefydlog;  Perthnasedd Nodiadau Cyfarwyddyd Datganoli Llywodraeth y DU yng ngoleuni datblygiadau cyfansoddiadol diweddar yng Nghymru;  Y gweithdrefnau ar gyfer Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol o gymharu a’r sefyllfa mewn deddfwriaethau datganoledig eraill;  Unrhyw fater arall yr ystyriwch sy’n berthnasol i’r ymchwiliad. Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y materion sydd wedi’u cynnwys yn y cylch gorchwyl. Dylid anfon ymatebion, naill ai ar ffurf copi caled neu’n electronig, i’r cyfeiriad canlynol erbyn 30 Medi 2011 fan bellaf: Clerc y Pwyllgor Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Ty Hywel Cynulliad Cenedlaethol Cymru Caerdydd CF99 1NA E-bost: CLA.Committee@cymru.gov.uk