Pwyllgor Cynulliad yn canfod bod 'dryswch' yn bodoli o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru am ei bwrpas

Cyhoeddwyd 17/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mewn llythyr at Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dod i'r casgliad bod 'dryswch' yn bodoli o fewn CNC am ei bwrpas a bod 'diffyg ymwybyddiaeth ymysg haen uwch CNC ynghylch sut y mae'n cael ei weld ar lawr gwlad gan randdeiliaid allweddol a staff'.

Mae'r Pwyllgor o'r farn bod llawer o'r materion eraill y mae'n eu codi yn ei lythyr yn ymwneud â'r diffyg eglurder hwn ynghylch pwrpas CNC.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae'r rhain yn bryderon difrifol. Roeddem wedi disgwyl y byddai CNC mewn sefyllfa well ddwy flynedd wedi'r uno. Rydym wedi clywed am rai datblygiadau cadarnhaol ond soniodd llawer o randdeiliaid am brofiadau sy'n awgrymu bod angen gwelliant sylweddol mewn ystod eang o feysydd.

"Os caiff y gwelliannau eu gwneud yn awr, byddai hynny'n ateb llawer o'r materion sydd wedi cyfrannu at bryderon rhanddeiliaid a diffyg morâl ymysg staff. Ni ellir anwybyddu'r pryderon hyn; rhaid delio â hwy yn gyflym."

Mae'r materion eraill a gododd y Pwyllgor yn y llythyr yn cynnwys pryderon ynghylch:

-   Cyfathrebu mewnol rhwng uwch reolwyr a staff ar lawr gwlad

-   Anghysondeb o ran cyngor a chefnogaeth i gwsmeriaid

-   Ymagwedd CNC tuag at y Trydydd Sector

-   Tryloywder ac annibyniaeth gan Lywodraeth Cymru

-   Sylwadau a wnaed gan Gadeirydd CNC mewn perthynas â'r cyrff a'i rhagflaenodd