Pwyllgor Cynulliad yn ceisio barn y cyhoedd ar Fesur Arfaethedig i sefydlu rôl statudol Comisiynydd Safonau
Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru am gynnig Mesur Cynulliad i sefydlu swydd Comisiynydd Safonau statudol ac mae’n awyddus i glywed barn y cyhoedd am y pwnc.
Mae Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol yn berson annibynnol a benodir gan y Cynulliad i weithredu fel "corff gwarchod” ar gyfer y modd mae Aelodau’r Cynulliad yn cyflawni eu dyletswyddau.
Prif ddyletswyddau’r Comisiynydd yw :
Archwilio ffeithiau ynghylch unrhyw g^wyn yn erbyn Aelod Cynulliad;
Rhoi cyngor i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am faterion cyffredinol mewn perthynas â safonau ymddygiad Aelodau, a’r cofnodion y mae angen eu cadw, megis Buddiannau’r Aelodau ac aelodaeth o Gymdeithasau; a
Darparu'r cymorth a'r cyngor y mae’r Cynulliad yn penderfynu y mae eu hangen, a hynny ar faterion sy'n gysylltiedig â safonau ymddygiad Aelodau’r Cynulliad.
Nid yw ar hyn o bryd yn ofynnol yn gyfreithiol i’r Cynulliad Cenedlaethol gael Comisiynydd Safonau ond fe hoffai’r Pwyllgor ar Safonau Ymddygiad gynnig bod cyfraith yn cael ei phasio sy’n nodi bod rhaid cael Comisiynydd Safonau Ymddygiad yng Nghymru.
Dywedodd Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: “Cred y Pwyllgor fod hwn yn fater pwysig. Byddai gwneud y swydd hon yn un statudol yn sicrhau bod y Comisiynydd yn cael ei weld fel rhywun sydd yn gwbl annibynnol o’r Cynulliad ac felly’n gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad yn gwbl wrthrychol. Byddai hefyd yn darparu i’r Comisiynydd gyfres o bwerau cynhwysfawr ac effeithiol i’w (g)alluogi ef/ hi i ymchwilio i gwynion o ddifrif”
Er mwyn helpu’r Pwyllgor i benderfynu beth i’w gynnwys yn ei gynnig ar gyfer Mesur, mae’r Pwyllgor yn ymgynghori gyda phobl am rai o’r cwestiynau mwyaf pwysig am swyddogaeth ac annibyniaeth y Comisiynydd Safonau. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb i glywed barn y cyhoedd am dri phrif gwestiwn:
1. A oes angen am Fesur y Cynulliad er mwyn sefydlu rôl statudol Comisiynydd Safonauŵ
2. Beth ddylai swyddogaeth y Comisiynydd Safonau fod?
3. Pa egwyddorion sylfaenol ddylai fod yn sail i sefydlu’r Swydd?
Mae croeso i ragor o dystiolaeth fanwl ac mae rhestr bellach o gwestiynau ar gael ar dudalenau'r pwyllgor:
Fel rhan o’r broses o geisio barn gyhoeddus, bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Jeff Cuthbert AC, yn stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher, 23 Gorffennaf rhwng 12 a 1pm.
Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Lara Date, y Gwasanaeth Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA erbyn dydd Gwener, 6 Medi 2008 fan bellaf. Os yn bosibl, cyflwynwch fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu fformat Rich Text naill ai ar yr e-bost at pwyllgorsafonau@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg. Mae canllawiau pellach ar gyflwyno tystiolaeth ynghlwm.
Efallai y bydd y Pwyllgor yn gofyn i’r rhai sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gyflwyno fel tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor. Nodwch yn eich ymateb a fyddech yn fodlon cyflwyno’ch tystiolaeth yn bersonol ai peidio os gwelwch yn dda.
Dylai tystion fod yn ymwybodol, unwaith bo tystiolaeth ysgrifenedig wedi’i chyflwyno i Bwyllgor y caiff ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw gosod papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac fe allant wedyn gael eu hargraffu gyda’r adroddiad