Pwyllgor Cynulliad yn clywed tystiolaeth gan ddynion sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig

Cyhoeddwyd 15/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Cynulliad yn clywed tystiolaeth gan ddynion sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig

Bydd y Cynllun Dyn, sy’n cefnogi dynion sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig, yn trafod y mater hwn â Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor ddydd Iau 17 Gorffennaf.

Bydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad presennol i gam-drin domestig. Bydd y pwyllgor hefyd yn trafod anghenion plant a effeithir arnynt gan gam-drin domestig â swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a Phlant mewn Angen y BBC.

Dywedodd Janice Gregory AC, Cadeirydd y Pwyllgor: ”Yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth, mae’r pwyllgor wedi cydnabod bod cam-drin domestig yn fater sy’n effeithio ar bobl o bob cefndir beth bynnag bo’u rhyw, eu rhywioldeb, eu hil, eu hoedran neu eu cefndir economaidd gymdeithasol. Mae cam-drin domestig yn cael effaith ddifrifol ar blant hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol.  

“Tra bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am sefyllfa menywod sy’n ddioddef camdriniaeth ddomestig, ychydig sy’n ymwybodol o’r dynion sy’n ddioddefwyr a’r cymorth sydd ar gael iddynt. Mae’r pwyllgor wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth priodol ar gael i bawb sydd ei angen, ac felly mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn sydd gan y Cynllun Dyn i’w ddweud.”

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd o 1.30pm hyd 3.30pm.

Gwybodaeth bellach am y pwyllgor a chopi o’r agenda.