Pwyllgor Cynulliad yn gofyn am sylwadau ar adnewyddu Siarter y BBC

Cyhoeddwyd 01/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

 

Mae pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn holi ynghylch yr hyn y gall yr adolygiad o Siarter y BBC ei olygu i Gymru.

Bydd yr adolygiad, a gynhelir gan Lywodraeth y DU, yn edrych ar bwrpas, maint, cyllid a llywodraethiant y gorfforaeth.

Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ddeng mlynedd yn ôl, cyn y cynnydd aruthrol mewn ffonau clyfar a thabledi, ac yn nyddiau cynnar gwasanaethau ffrydio ar-lein megis YouTube a Netflix.

Bydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried yr adolygiad a'i oblygiadau posibl i Gymru, gan gynnwys, ymysg pethau eraill:

  • Y ddarpariaeth o wasanaethau'r BBC yng Nghymru yn y dyfodol, yn Gymraeg ac yn Saesneg;
  • Cyllido cyfredol ac yn y dyfodol, llywodraethiant, ac atebolrwydd mewn perthynas â Chymru; a
  • Dyfodol S4C a'r gwasanaethau a ddarperir ganddi.

Yn yr ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan y BBC, cyfryngau masnachol, y Llywodraeth a phartïon eraill sydd â buddiant.

Bydd hefyd yn gofyn i bobl ledled Cymru am eu barn.

Yn ôl Christine Chapman AC, "Mae'r BBC yn rhan o'n bywydau ers cenedlaethau, ond yn ddiamau, yn y byd sydd ohoni, gyda gwasanaethau ar gais a'r rhyngrwyd yn sail i gymaint, mae ei sefyllfa yn newid".

"Bydd yr adolygiad o Siarter y BBC yn llywio ffordd y gorfforaeth o weithio a gwasanaethu'r cyhoedd ym Mhrydain yn y dyfodol, felly rydym am wybod ym mha ffordd y gall y newidiadau hyn effeithio ar Gymru, a pha fath o BBC yr ydym am ei chael.

"Gofynnaf i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y BBC a thirwedd y cyfryngau yng Nghymru gyfrannu at ein hymchwiliad drwy ystyried ein cylch gorchwyl a thrwy helpu i lywio ein canfyddiadau."

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 30 Hydref 2015. Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth fynd i dudalen ymchwiliad y Pwyllgor am ragor o wybodaeth.