Pwyllgor Deddfwriaeth yn cefnogi hawliau arloesol i blant

Cyhoeddwyd 08/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Deddfwriaeth yn cefnogi hawliau arloesol i blant

Cyhoeddodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ei adroddiad ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru heddiw i ehangu hawl plant drwy roi iddynt hawliau i wneud apelau anghenion addysgol arbennig a hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae adroddiad y Pwyllgor yn cefnogi egwyddor y Mesur arfaethedig a’r angen am ddeddfwriaeth. Mae hefyd yn cydnabod y bydd deddfwriaeth yn sicrhau cydymffurfiaeth â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.  

Byddai’r Mesur arfaethedig yn rhoi hawl gyffredinol i blant wneud apelau a hawliadau, nad yw wedi’i seilio ar oedran na chymhwysedd. Er bod rhai tystion wedi nodi pryder ynghylch sut y caiff hyn ei weithredu mewn ffordd ymarferol, rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor gan Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau y gellid mynd i’r afael â’r pryderon hyn mewn rheoliadau a chanllawiau yn y dyfodol.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ofalus i adrannau o’r Mesur arfaethedig sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru atal plentyn rhag gwneud apêl na hawliad. Cytunodd y Pwyllgor y dylai fod gan blant hawl ddiymatal i wneud apêl neu i wneud hawliad a daeth i’r casgliad y dylid diddymu’r pwerau hyn o’r Mesur arfaethedig gyda chafeat yn nodi, pe baent yn aros, y byddent yn agored i’w craffu’n fwy trylwyr gan y Cynulliad (drwy’r weithdrefn gadarnhaol) cyn iddynt gael eu defnyddio.

Ystyriodd y Pwyllgor hefyd nifer o faterion gweithredu sy’n codi o’r Mesur arfaethedig, yn arbennig ynghylch hysbysu plentyn a chyflwyno dogfennau iddo; penodi cyfaill achos gan gynnwys y gofyniad am ganiatâd rhieni; gwasanaethau eirioli annibynnol a chyfraniad plant mewn achosion yn y Tribiwnlys.

Mae’r Mesur arfaethedig yn cyfeirio at gynigion ar gyfer treialu hawliau plant i wneud apêl neu i wneud hawliad ac sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru newid, drwy Orchymyn, y Mesur arfaethedig mewn perthynas â chanlyniadau’r peilot. Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor yn argymell yn gryf y dylai unrhyw orchmynion yn y dyfodol i ddiwygio’r Mesur arfaethedig, ar ôl y cyfnod treialu a gwerthuso, fod yn agored i’w craffu yn y Cynulliad gan ddefnyddio’r weithdrefn uwchgadarnhaol.

Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod tystiolaeth a gafwyd gan dystion yn galw am broses ymgynghori bellach â rhanddeiliaid allweddol ar ôl i’r cyfnod treialu a gwerthuso ddod i ben. Mae’r adroddiad yn argymell bod y Gweinidog yn ystyried cyflwyno gwelliant i’r Mesur arfaethedig i adlewyrchu hyn.

Yn ystod ei waith craffu, bu’r Pwyllgor yn ystyried ehangder y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru o dan adran 18 i ddiwygio’r Mesur arfaethedig. Mae’r adroddiad yn mynegi pryder ynghylch sut y gellid defnyddio’r pwerau hyn gan Weinidogion yn y dyfodol i ddiwygio egwyddorion y Mesur arfaethedig. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried bod y pwerau fframwaith a geisir o dan y Mesur arfaethedig hwn yn ymwneud â materion o egwyddor sylfaenol, er enghraifft a all plentyn apelio ai peidio. Felly, mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai adran 18 o’r Mesur arfaethedig fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn uwchgadarnhaol.

Dywedodd Dr Dai Lloyd, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Rydym wedi ystyried y Mesur arfaethedig yn fanwl iawn ac wedi ystyried canlyniadau ymgynghoriad eang. Rydym yn cytuno â’r egwyddor a’r angen am y ddeddfwriaeth hon ac yn cefnogi’r cynnig i ehangu hawliau plant i wneud apelau Anghenion Addysgol Arbennig a hawliadau o gamwahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Rydym yn falch y bydd y Mesur arfaethedig yn ategu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn croesawu ei gyflwyniad.

Fodd bynnag, mae gennym rai amheuon o ran gweithredu rhai agweddau ar y Mesur arfaethedig mewn ffordd ymarferol ac rydym wedi gwneud argymhellion i adlewyrchu hyn. Rydym hefyd wedi nodi pryderon a gwneud argymhellion ynghylch natur fframwaith y Mesur arfaethedig ac ehangder y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r Mesur arfaethedig yn y dyfodol”.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Mesur arfaethedig a’r broses ddeddfu yn:  http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-ed.htm