Pwyllgor i ddechrau ar ymchwiliad newydd ym maes addysg uwch yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Pwyllgor i ddechrau ar ymchwiliad newydd ym maes addysg uwch yng Nghymru         

Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad yn dechrau ar ymchwiliad newydd yr wythnos hon i gyfraniad economaidd addysg uwch yng Nghymru.                   

Bydd yr Athro Mervyn Jones ac Amanda Wilkinson, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, yn cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.            

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cynnal nifer o ymchwiliadau llwyddiannus, ac ‘rwy’n hyderus iawn y byddwn unwaith eto’n gallu cynhyrchu adroddiad defnyddiol a phwysig o ganlyniad i’r hyn a ganfyddwn. Bydd felly’n bwysig iawn gwneud yn siwr fod cwmpas yr ymchwiliad yn hollol gywir, a byddwn yn ymchwilio i’r materion hyn gyda chyrff fel Addysg Uwch Cymru cyn lansio’r ymchwiliad yn swyddogol a gwneud gwaith casglu tystiolaeth manwl yn y flwyddyn newydd.”

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:                  

  • Ystyried natur ymgysylltu strategol Sefydliadau Addysg Uwch gyda busnesau yng Nghymru a thu hwnt a’u heffaith ar eu heconomïau lleol a rhanbarthol                                       

  • Llwyddiant Sefydliadau Addysg Uwch i gael mynediad at arian o wahanol ffynonellau

  • Canfod i ba raddau mae addysg ‘mentro’ wedi’i gorffori mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru

  • Y cyfraniad y gall Sefydliadau Addysg Uwch ei wneud i’r agenda sgiliau

  • Cyfraniadau ehangach prifysgolion i’w dalgylchoedd         

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 11 o’r gloch fore dydd Mercher, Tachwedd 28 yn Ystafell bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.

Manylion llawn ac agenda :