Pwyllgor i drafod adroddiad ar randiroedd

Cyhoeddwyd 20/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Pwyllgor i drafod adroddiad ar randiroedd

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (20 Hydref) yn trafod darganfyddiadau adroddiad (a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2010) a oedd yn edrych ar ddarpariaeth rhandiroedd yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad gan y Pwyllgor Cynaliadwyedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol ar randiroedd i wneud yn sicr ei bod yn berthnasol ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain a, cheisio’r pwerau o San Steffan i’w diwygio pe byddai angen.

Roedd hefyd yn amlygu pryder nad oes dim cofnodion cywir ar gael i nodi’r cyflenwad o randiroedd sydd ar gael a’r galw amdanynt ac nad yw rhestrau aros y cynghorau’n cynrychioli’n gywir faint o ddiddordeb sydd.

Roedd diffyg ariannu ar gyfer pobl a oedd am ddatblygu rhagor o dir tyfu cymunedol ac anawsterau o ran darparu tir a chaniatâd cynllunio yn bryderon eraill a nodwyd yn yr adroddiad.

Dywedodd Kirsty Williams AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Roedd hwn yn ymchwiliad pwysig a ddangosodd faint o rwystrau sy’n bodoli i atal unigolion a chymunedau rhag mwynhau manteision cael rhandir.

“Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad i’w ddweud ar y mater y prynhawn yma.”