Rheol Sefydlog 25: Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig
Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig ar Orchymyn drafft A40 Penblewin
Pwyllgor i glywed gwrthwynebiad i gynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ffordd osgoi yn Sir Benfro
Bydd Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig yn cyfarfod rhwng 7 a 10 Hydref er mwyn trafod deisebau Cyngor Sir Penfro a Mr K. Jones yn erbyn ffordd osgoi Robeston Wathen yn Sir Benfro. Cynllun sydd wedi’i gynnig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw hwn o dan Orchymyn drafft A40 Gwelliant Penblewin i Barc Slebets.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y pwyllgor: “Dyma’r tro cyntaf i Orchymyn drafft a wnaed gan Weinidogion Cymru gael ei herio o dan y Weithdrefn Cynulliad Arbennig ac i ddod gerbron un o bwyllgorau’r Cynulliad. Mae’r mathau hyn o Orchmynion yn brin ac anaml y byddant yn cael eu herio. Y tro diwethaf y digwyddodd hyn oedd yn Senedd San Steffan ym 1999."
Bydd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan dystion ar ran Cyngor Sir Penfro i gyd-fynd â’r ddeiseb. Maent yn dadlau na ddylid gwneud y Gorchymyn drafft gan mai bwriad y Gweinidog yw adeiladu ffordd dair lôn unffrwd (2 + 1) yn hytrach na ffordd ddeuol. Mae Cyngor Sir Penfro o’r farn y byddai ffordd ddeuol yn rhoi gwell gwerth am arian.
Bydd y pwyllgor hefyd yn clywed gan gynrychiolwyr Mr K. Jones o fferm Sunnyside, Robeston Wathen, Sir Benfro. Sail y gwrthwynebiad yw na ddylid gwneud y Gorchymyn gan y byddai’r ffordd yn rhannu fferm Sunnyside yn ddwy ac yn cael effaith niweidiol ar yr eiddo.
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn galw tystion ac yn cyflwyno tystiolaeth yn erbyn y deisebau, ac yn cefnogi’r cynnig i adeiladu’r ffordd osgoi.
Gwaith y pwyllgor yw canfod y ffeithiau a phenderfynu a ddylid gwneud y Gorchymyn ai peidio ar sail y ffeithiau hynny a gyflwynir gan y deisebwyr a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nid yw cylch gwaith y pwyllgor yn ei alluogi i glywed tystiolaeth gan unrhyw bartïon perthnasol eraill.
Bydd Winston Roddick QC yn cynrychioli Cyngor Sir Penfro. Bydd Graham Walters, Cwnsler, yn cynrychioli Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd Mr J. Nicholas o Syrfewyr Siartredig JJ Morris yn cynrychioli Mr Jones.
Gosodwyd Gorchymyn drafft “Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-“ gerbron y Cynulliad ar 7 Mai 2008. Cyflwynwyd y ddwy ddeiseb i Lywydd y Cynulliad ym mis Mehefin 2008 o dan y Weithdrefn Cynulliad Arbennig, a dyma’r tro cyntaf i weithdrefn o’r fath gael ei defnyddio yng Nghymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y pwyllgor a’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig