Pwyllgor i glywed rhagor o dystiolaeth gan y gweinidog addysg ar ddeddfwriaeth newydd arfaethedig
Yr wythnos hon bydd y Pwyllgor ar y Gorchymyn Ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol, a sefydlwyd i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar anghenion dysgu ychwanegol, yn holi’r Gweinidog Addysg, Jane Hutt am yr ail waith.
Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi pwer i’r Cynulliad wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu ac anableddau. Mae’r Pwyllgor wedi cymryd tystiolaeth gan nifer o grwpiau sydd â diddordeb gan gynnwys y Comisiwn Hawliau Anabledd, y Comisiynydd Plant a’r prif arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Bydd nawr yn cael y cyfle olaf i holi’r Gweinidog am gynigion y Llywodraeth cyn ystyried y dystiolaeth a dderbyniwyd ac adrodd ar ei ganfyddiadau.
Dywedodd Eleanor Burnham AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor yn dymuno craffu’n fanwl ar y darn cyntaf o ddeddfwriaeth arfaethedig, sy’n dod o’r Llywodraeth o dan bwerau newydd y Cynulliad. Rwy’n falch iawn bod y Gweinidog yn ymddangos o flaen y Pwyllgor unwaith eto fel y gall yr Aelodau gael cyfle i ofyn cwestiynau iddi am y materion a godwyd yn ystod y gwaith hyd yma.”
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd, Bae Caerdydd am 9.30am ddydd Iau 18 Hydref.
Rhagor o fanylion am y Pwyllgor a’r ddeddfwriaeth arfaethedig