Pwyllgor i glywed tystiolaeth gan Gymdeithas y Cyfreithwyr ar y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007

Cyhoeddwyd 04/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor i glywed tystiolaeth gan Gymdeithas y Cyfreithwyr ar y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007

Bydd Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth y Cynulliad yn parhau i drafod y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r Gig yn ei gyfarfod nesaf yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Caerdydd, ddydd Mawrth,  Hydref 9, 2007. Er mwyn sicrhau bod y craffu ar y Mesur hwn mor effeithiol â phosibl, bydd y Pwyllgor yn ystyried cyfraniadau gan ffynonellau mewnol ac allanol. Yn y cyfarfod ar ddydd Mawrth, Hydref 9, 2007 bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: ”Mae’r broses hon yn golygu bod pwerau newydd y Pwyllgor yn cael eu harfer am y tro cyntaf mewn modd hynod ddiddorol.  Er bod pawb yn gytûn ar egwyddorion y ddeddfwriaeth, eto mae’n rhaid inni  sicrhau craffu priodol ar y pwerau manylu a ddirprwyir i Weinidogion Cymru. Oherwydd hyn felly, bydd yn ddefnyddiol iawn cael clywed gan y corff sy’n cynrychioli’r cyfreithwyr sydd yn ganolog wrth weithredu’r broses bresennol ar gyfer cael iawn gan y GIG.” Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Caerdydd rhwng 8.15am a 9.15am, ddydd Mawrth, Hydref 9, 2007. Manylion llawn ac agenda yma