Pwyllgor i glywed tystiolaeth newydd ar gyfer ymchwiliad i addysg uwch yng Nghymru
Bydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad yn parhau i gasglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwil i gyfraniad economaidd addysg uwch yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf.
Bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan David Caldwell, Cyfarwyddwr Prifysgolion yr Alban, drwy gyfrwng cyswllt fideo.
Bydd yr Athro Maher Kalaji, Pennaeth Cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn bresennol yn y cyfarfod i roi tystiolaeth ar ran Cymdeithas Frenhinol Cemeg.
Caiff y cyfarfod ei gynnal am 9am yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd, ddydd Mercher 21 Mai.
Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Ystyried natur y cysylltiad strategol rhwng Sefydliadau Addysg Uwch a busnesau yng Nghymru a thu hwnt a’u heffaith ar eu heconomïau lleol a rhanbarthol
Llwyddiant y Sefydliadau Addysg Uwch o ran sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau
I ba raddau y mae addysg entrepreneuriaeth wedi’i chynnwys fel rhan annatod o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru
Cyfraniad Sefydliadau Addysg Uwch at yr agenda sgiliau
Cyfraniadau ehangach prifysgolion i’w hardaloedd
Rhagor o fanylion am y pwyllgor