Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi beirniadu agwedd “ddidaro” Llywodraeth Cymru tuag at ynni adnewyddadwy gan ddweud nad yw’n dangos ymdeimlad o frys.
Daw adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i’r casgliad fod llawer o’r rhwystrau sy’n atal y sector ynni adnewyddadwy rhag datblygu wedi dod i’r amlwg yn wreiddiol yn 2012 a bod addewidion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhain yr un fath heddiw ag yr oeddent ddeng mlynedd yn ôl.
Er bod yr argyfwng hinsawdd yn dwysáu, a bod cynnydd byd-eang mewn tanau gwyllt a chynnydd mewn glaw eithafol yn y DU, mae adroddiad y Pwyllgor yn dangos bod datblygiadau ynni adnewyddadwy wedi arafu ers 2015.
Mae llawer o’r rhwystrau sy’n atal datblygiadau ynni adnewyddadwy yn gysylltiedig â’r broses gynllunio a chydsynio, yn ogystal â’r seilwaith grid ynni yng Nghymru.
Gyda thwf ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn dibynnu cymaint ar gapasiti’r grid ynni, dywedodd y Pwyllgor hefyd wrth Lywodraeth Cymru fod yn rhaid iddi bwyso ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gynyddu’r capasiti hwn fel blaenoriaeth frys.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: “Rydym yn ffodus yng Nghymru ein bod wedi’n bendithio ag adnoddau naturiol sy’n ddelfrydol ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy, ar y tir ac ar y môr. Ond mae rhwystrau arwyddocaol, hirsefydlog y mae angen mynd i’r afael â hwy er mwyn i Gymru ddatgloi ei photensial llawn o ran ynni adnewyddadwy.
“Yn 2012, fe wnaeth Llywodraeth Cymru addo cymryd camau amrywiol i fynd i’r afael â’r materion hyn ond, ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn dal i glywed yr un addewidion . Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r ymateb didaro i’r problemau hyn wedi amlygu diffyg ymdeimlad o frys ac, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni ei gweld yn gweithredu - a rhoi’r gorau i’r siarad gwag.
Nid nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru fod yn llusgo’i thraed. Rhaid iddi ymateb i’r galw mawr a chyson am wella seilwaith grid Cymru a mynnu bod Llywodraeth y DU yn gweithredu, yn hytrach nag aros nes ei bod hi’n rhy hwyr.”