Arian

Arian

Pwyllgor Senedd: ‘Diffyg gonestrwydd' yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 06/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o 'ddiffyg gonestrwydd' mewn perthynas â chynigion ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn dadansoddi cynlluniau gwariant a threthiant arfaethedig Llywodraeth Cymru. Daw i’r casgliad bod yr esboniadau a ddarperir ynghylch ble y bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu – a’i ddad-flaenoriaethu – yn aneglur. 

Diffyg eglurder 

Yn ôl yr adroddiad, nid yw Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth glir am effaith ei chyllideb. Er bod y gyllideb, a gyhoeddwyd o dan y teitl ‘Cyllideb Mewn Cyfnod Anodd', yn awgrymu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd, mae’r diffyg manylion a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn ei gwneud yn anodd deall yn union ble y bydd y fwyell yn disgyn o ran gwariant. 

 

“Beth sydd wedi cael ei leihau? Beth sydd wedi'i ohirio? Beth sydd wedi'i roi o'r neilltu yn gyfan gwbl?"  

Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid 

  

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i godi neu ostwng treth incwm yng Nghymru. Serch hynny, gwnaeth y Pwyllgor feirniadu Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid, am wrthod ymchwilio i effaith amrywio’r cyfraddau treth dan sylw, sy’n awgrymu nad yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried o ddifrif y posibilrwydd o newid y cyfraddau treth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. 

Mae’r chwyddiant uchel sy’n effeithio ar economi’r DU hefyd yn cael ei weld fel rheswm dros y diffyg sicrwydd sydd ynghlwm wrth gynigion Llywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor fod y berthynas wael rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ychwanegu at yr ansicrwydd o ran y gyllideb. 

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Rydym yn deall bod y penderfyniadau ariannu sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yn hynod o anodd, ond roeddem yn synnu ac yn pryderu ynghylch y diffyg gonestrwydd yn y Gyllideb Ddrafft. Nid dyma’r ffordd iawn o ymdrin â’n Pwyllgor a’r Senedd yn gyffredinol, ac mae’n tanseilio gwaith craffu democrataidd dilys. 

“Mae diffyg manylder y Gyllideb Ddrafft - ynghyd â chwyddiant a chyfathrebu gwael rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU - yn peri pryder, ac roedd yn syndod clywed nad oedd y Gweinidog Cyllid wedi gwneud asesiad priodol o’r posibilrwydd o newid y cyfraddau treth, sy’n awgrymu na roddwyd ystyriaeth ddifrifol i’r syniad hwnnw.” 

Mynegodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith bryderon hefyd am ddiffyg tryloywder Llywodraeth Cymru. 

Yn ôl adroddiad Pwyllgor yr Economi, er bod Llywodraeth Cymru wedi datgan bod llai o arian ar gael, nid yw wedi cynnwys manylion ynghylch nifer gostyngol y busnesau y byddai’n gallu eu cefnogi. 

Bu oedi cyn i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd gael gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru, a chafodd y sefyllfa hon effaith negyddol ar ei allu i graffu ar y Gyllideb Ddrafft. Mae’r Pwyllgor hwn a’i ragflaenydd wedi mynegi pryderon ers nifer o flynyddoedd ynghylch gallu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflawni ei gyfrifoldebau mewn modd effeithiol yn sgil diffyg cyllid a chapasiti. 

O’r diwedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod bwlch yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, ond nid yw wedi nodi sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r sefyllfa hon. Yn sgil hynny, mae’r Pwyllgor wedi gofyn iddi egluro sut a phryd y bydd yn mynd i’r afael â’r bwlch ariannu hwn. 

Rhagor o gymorth mewn perthynas â chostau byw 

Gwnaeth y Pwyllgor Cyllid annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar lefel arfaethedig y cymorth y bydd yn ei ddarparu ar gyfer costau byw pobl. Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu’r broses o gyflwyno Siarter Budd-daliadau Cymru, sef system fudd-daliadau unedig a fyddai'n darparu gwell cymorth i bobl sy'n wynebu costau byw cynyddol. 

Yn ogystal, gwnaeth y Pwyllgor argymell ystod o fesurau i helpu pobl, gan gynnwys ehangu gofal plant am ddim a chynyddu gwerth y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), er mwyn rhoi mwy o gymorth ariannol i bobl ifanc 16-19 oed sydd am barhau i ddysgu – grant nad yw wedi cynyddu ers canol y 2000au. 

 

“Os yw popeth yn flaenoriaeth, nid oes unrhyw beth yn flaenoriaeth”  

Conffederasiwn y GIG, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid 

  

Cafodd y galwadau hyn eu hategu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a wnaeth annog Llywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol i ailystyried y trothwy ar gyfer hawlio’r LCA. Dylai hyn fynd law yn llaw â gwarantu’r cam i ymestyn y cynllun ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol hyd at, a chan gynnwys, toriad hanner tymor Chwefror 2024. Nododd adroddiad y Pwyllgor y diffyg eglurder cyffredinol ynghylch sut y bydd y Gyllideb yn cefnogi plant a phobl ifanc; sydd yn enwedig o fregus i effeithiau'r argyfwng costau byw. 

 Gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol feirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chanolbwyntio’n ddigonol ar atebion hirdymor i’r argyfwng costau byw, ac am fethu ag egluro’r meddylfryd y tu ôl i’w phenderfyniadau ariannu.    

Pwysau ar wasanaethau cyhoeddus 

Wrth ddadansoddi’r toriadau posibl yn y gyllideb ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol, dywedodd y Pwyllgor Cyllid fod y diffyg eglurder gan Lywodraeth Cymru yn peri pryder. Rhybuddiodd fod nodi blaenoriaethau gwariant yn ddibwrpas os nad yw’r manylion ynghylch y meysydd a fydd yn cael llai o gyllid yn cael eu darparu hefyd.  

Nododd y Pwyllgor fod pwysau ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn bryder parhaus iddo. Cydnabuwyd yr ymdrechion a wnaed i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i egluro sut y mae’n bwriadu lleihau’r ddibyniaeth ar staff asiantaeth a locwm.    

Mae adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd yn mynegi pryderon ynghylch y drefn ar gyfer recriwtio a chadw staff yn y sector. Mae un o argymhellion allweddol yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol yn y broses o ehangu cynlluniau i raddedigion a phrentisiaid. 

Croesawodd y Pwyllgor Cyllid y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu yn ddiweddar. Mae’n dymuno gweld y cynllun yn cael ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru at ddibenion darparu sefydlogrwydd hirdymor ymhlith yr holl wasanaethau cyhoeddus. 

Dywedodd Peredur Owen Griffiths: “Mae costau byw yn effeithio ar bawb ar hyn o bryd. Fel sy’n digwydd bob amser, fodd bynnag, y bobl dlotaf yn ein cymdeithas sy’n wynebu’r baich mwyaf. Bydd y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant ac ar gyfer cynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysgol ar gyfer dysgwyr ifanc yn hollbwysig o ran lleddfu’r brwydrau hyn, a dylid sicrhau ei fod yn flaenoriaeth.  

“Mae angen edrych hefyd ar ddatrys problemau sy’n ymwneud â’r gweithlu yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol. Mae gormod o arian yn cael ei wastraffu ar staff asiantaeth a locwm, ac mae angen i Lywodraeth Cymru egluro’n well sut y mae’n bwriadu lleddfu’r pwysau staffio, yn enwedig o ran recriwtio a chadw staff. 

“Mae gan Lywodraeth Cymru amser yn awr i asesu ein hargymhellion ni, yn ogystal ag argymhellion y Pwyllgorau eraill, ac i edrych eto ar ei chynigion cyn iddi gyflwyno ei Chyllideb derfynol. Mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion pendant, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wrando mewn modd adeiladol, ac i ymateb drwy gyflwyno Cyllideb sy’n cefnogi pobl Cymru yn well.”  

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi amlygu y chwe blaenoriaeth y mae’r Gweinidog Iechyd wedi’u cyflwyno i’r byrddau iechyd. Er eu bod wedi cael cyfarwyddiadau ynghylch y meysydd y dylid canolbwyntio arnynt, nid yw’r byrddau iechyd wedi cael unrhyw gyfarwyddyd ynghylch yr hyn sydd yn “wleidyddol dderbyniol” iddyn nhw beidio a chanolbwyntio arnynt, a sut y dylid lliniaru effeithiau hyn. 

Yn ogystal, dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer lleoliadau chwaraeon a diwylliannol sydd mewn perygl o orfod cau. Yn ôl y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, dylai nifer o leoliadau sydd â dyfodol cynaliadwy hirdymor gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i’w cefnogi yn ystod yr argyfwng presennol. 

Bydd y Gyllideb Ddrafft yn destun dadl yn y Senedd ar 7 Chwefror. Bydd y Gyllideb derfynol yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 28 Chwefror, a bydd yn destun dadl yn y Senedd ar 7 Mawrth. 

Gellir darllen pob un o adroddiadau'r Pwyllgorau yn llawn yma.