Pwyllgor y Cynulliad i barhau â’i ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu

Cyhoeddwyd 20/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad i barhau â’i ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu  

 

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn parhau â’i ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher, Tachwedd 21

Bydd yr Aelodau’n clywed tystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain; Cynghrair Niwrolegol Cymru; Cymdeithas y Gweithwyr Cymdeithasol ym Mhrydain ac:UNSAIN.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 9:30 fore dydd Mercher

21 Tachwedd 2007 yn Ystafell bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor ac agenda