Pwyllgor y Cynulliad i gyfarfod ym Mae Colwyn

Cyhoeddwyd 04/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad i gyfarfod ym Mae Colwyn     

Bydd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 6 Mawrth ym Mae Colwyn. Bydd y pwyllgor yn cyfarfod am 11.00am yn Nghanolfan Ymwelwyr y Cynulliad yn y Gogledd.

Bydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth mewn perthynas â thair deiseb a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad, un ar Brosiect Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl, un ar Wasanaethau Niwrelogol yng Ngogledd Cymru ac un arall ar Adolygiad Cyntaf y Cynllun Gwastraff. Dyma fydd y tro cyntaf i’r pwyllgor, a sefydlwyd fis Gorffennaf diwethaf yn dilyn cyflwyno’r system ddeisebau, gyfarfod y tu allan i Gaerdydd.

Bydd Aelodau’n gwrando ar gyflwyniadau gan y deisebwyr ac yn ystyried deisebau newydd a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Dywedodd Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r system ddeisebau’n rhoi’r cyfle i bobl Cymru gysylltu â ni ynghylch materion sy’n bwysig iddynt.  Rydym yn falch ein bod yn cyfarfod ym Mae Colwyn ac yn edrych ymlaen at glywed barn y deisebwyr ar y materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu hardaloedd.”

Cynhelir y cyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr y Gogledd, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn rhwng 11.00am a 2.00pm.

Rhagor o fanylion am y pwyllgor