Pwyllgor y Cynulliad o blaid pwerau yn ymwneud â gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol

Cyhoeddwyd 02/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad o blaid pwerau yn ymwneud â gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol

Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gael yr hawl i ddeddfu er mwyn gallu cyflwyno Mesur y Cynulliad a fyddai’n gorfodi awdurdodau lleol ond i ddefnyddio’r cerbydau hynny sy’n cydymffurfio â’r safonau uchaf o ddiogelwch i gludo plant i’r ysgol.

Dyna farn Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 y Cynulliad, sy’n cefnogi Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Trafnidiaeth) 2010.

Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn galluogi’r Cynulliad i’w gwneud yn ofynnol i’r cerbydau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ar gyfer cludiant i’r ysgol fod â gwregysau diogelwch a theledu cylch cyfyng.

Fodd bynnag, ni fyddai’r Gorchymyn arfaethedig yn effeithio ar y llwybrau bysiau cyhoeddus hynny a ddefnyddir gan blant ar ddiwrnodau ysgol.

Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Er bod cymhwysedd deddfwriaethol yn ymwneud â chludiant i’r ysgol eisoes wedi ei ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, nid yw’r defnydd o gerbydau, yr adeiladwaith o’r cerbydau hynny na’r offer sydd arnynt o fewn cwmpas y cymhwysedd.”

“Byddai’r Gorchymyn arfaethedig yn galluogi’r Cynulliad i gyflwyno Mesur newydd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ond i ddefnyddio cerbydau unllawr sydd â gwregysau diogelwch a theledu cylch cyfyng.”

“Mae’r Pwyllgor yn credu y byddai hyn yn galluogi’r Cynulliad i sicrhau bod llawer o’r cerbydau sy’n cludo’n plant i’r ysgol bob dydd yn cydymffurfio â’r safonau uchaf o ddiogelwch.”

Bydd y Gorchymyn arfaethedig hefyd yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu er mwyn newid y system o ddarparu ad-daliadau i gwmnïau bws a thrên yng nghyd-destun cynlluniau teithio rhatach.

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn hawlio ad-daliadau uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Clywodd y Pwyllgor fod y system wedi methu â chynnwys cymhellion digonol o ran rheoli costau.

O dan y Gorchymyn arfaethedig, byddai’r cyfrifoldeb dros drafod telerau’r costau o ddarparu cynlluniau teithio rhatach yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Trafnidiaeth)