Pwyllgor y Cynulliad yn ystyried pwerau benthyca ac arian cyfalaf i Gymru

Cyhoeddwyd 02/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad yn ystyried pwerau benthyca ac arian cyfalaf i Gymru

2 Chwefror 2012

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus ar ymchwiliad newydd i ystyried agweddau ar gyllido ac ariannu datganoli yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yn arbennig i ba raddau y gallai Llywodraeth Cymru gael pwerau benthyca a pha wersi y gellid eu dysgu o brofiadau awdurdodau lleol, sydd â phwerau benthyca eisoes.

Bydd casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor yn helpu i lywio Rhan Un o adroddiad gan y Comisiwn Silk sydd wrthi’n ystyried datganoli yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “Ar ôl ymgynghori â Chomisiwn Silk, mae’r Pwyllgor wedi penderfynu cynnal ymchwiliad er mwyn clywed beth yw profiadau awdurdodau lleol o fenthyca darbodus a gwahanol fodelau o ariannu cyfalaf a allai fod yn addas i Lywodraeth Cymru.

“Byddwn yn ystyried y modelau a gaiff eu defnyddio ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol yn ogystal â dulliau mwy arloesol o gael gafael ar arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.

“Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â Chomisiwn Silk, gyda golwg ar lywio Rhan Un o’i adroddiad ar ddyfodol datganoli yng Nghymru.”

Gall unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid wneud hynny drwy e-bost: pwyllgorcyllid@cymru.gov.uk neu drwy ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.