Pwyllgor yn cael ymestyn yr amserlen i drafod manylion y cynllun ynghylch gwneud iawn am gamweddau’r GIG

Cyhoeddwyd 27/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn cael ymestyn yr amserlen i drafod manylion y cynllun ynghylch gwneud iawn am gamweddau’r GIG

Mae’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) wedi penderfynu bod angen rhagor o amser arnynt i drafod y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007.  Y mae wedi gofyn am estyniad i’r cyfnod sydd ganddo cyn bod angen cyflwyno adroddiad ar y Mesur er mwyn iddo, fel rhan o’r broses o graffu ar gynigion y Llywodraeth, drafod gwybodaeth ychwanegol i’w chynnwys mewn adroddiadau.

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sefydlu tri gweithgor i benderfynu sut yn union y bydd y cynllun arfaethedigynghylch gwneud iawn am gamweddau’r GIG yn gweithio. Disgwylir i’r gweithgorau hyn gyhoeddi adroddiadau interim ganol mis Ionawr 2008 a fydd yn amlinellu eu cynigion. Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar y Mesur arfaethedig wedi iddo gael cyfle i drafod yr adroddiadau hyn.  

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Gan mai dyma’r Mesur cyntaf i’r Cynulliad ei drafod, mae’n brawf ar bwerau newydd y Cynulliad ac felly mae’n bwysig iawn ein bod ni fel Pwyllgor yn craffu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ofalus iawn.

“Gan hynny, penderfyniad doeth iawn yw gofyn am ddigon o amser i’r Pwyllgor drafod manylion hynod bwysig yn ymwneud â’r ffordd y bydd y system yn gweithio.

“Yna bydd y Pwyllgor yn gallu penderfynu ai cynigion y Llywodraeth yw’r ffordd orau o ddiogelu buddiannau cleifion sydd wedi dioddef oherwydd esgeuluster meddygol “

Rhagor o wybodaeth am y Mesur arfaethedig a’r broses ddeddfwriaethol