Pwyllgor yn clywed ymrwymiad gan y Gweinidog i ddeddfu ar welyau haul

Cyhoeddwyd 01/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn clywed ymrwymiad gan y Gweinidog i ddeddfu ar welyau haul

01 Hydref 2009

Clywodd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymrwymiad gan Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i gyflwyno rheoliadau mwy caeth ar welyau haul.

Mae aelodau’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i’r diwydiant salonau lliw haul ac, yn benodol, i’r defnydd o beiriannau a weithredir gan ddarnau arian.

“Nid yw’r pwyllgor wedi gwneud unrhyw argymhellion cadarn eto yn sgil y dystiolaeth a gafodd hyd yn hyn fel rhan o’r ymchwiliad, ond mae cyfraniad y Gweinidog Iechyd heddiw yn rhoi digon i ni feddwl amdano o ran ein casgliadau posibl,” dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor.  

“Mae’n galonogol clywed bod y Gweinidog yn cymryd y mater hwn o ddifrif a dyna pam y penderfynon ni, fel pwyllgor, gynnal yr ymchwiliad hwn yn y lle cyntaf. Mae cryn dipyn o bryder ymysg y cyhoedd ynglyn â gwelyau haul a salonau lliw haul a byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth gref hon o blaid rheoleiddio.”

“Ymddengys bod y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor hyd yn hyn yn ein harwain at reoleiddio yn y maes hwn.”

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain, Consol Suncentre a Dr Dafydd Roberts, dermatolegydd ymgynghorol, sy’n cynghori’r Adran Iechyd.