Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad ar ddeddfwriaeth ddrafft i wella diogelwch ar gludiant i’r ysgol

Cyhoeddwyd 21/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad ar ddeddfwriaeth ddrafft i wella diogelwch ar gludiant i’r ysgol

Cyhoeddodd y Pwyllgor Menter a Dysgu ei adroddiad ar Fesur Teithio gan Deithwyr (Cymru) drafft y Llywodraeth heddiw. Nod y ddeddfwriaeth ddrafft hon yw gwella ffyrdd o deithio i sefydliadau addysg drwy egluro’r ddeddf bresennol yng Nghymru, ategu protocolau ar gyfer ymddygiad da a disgyblaeth briodol ar fysiau ysgol a darparu cludiant am ddim i fwy o blant ysgolion cynradd.

Mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad craffu i’r Mesur drafft a gyhoeddwyd i gynnal ymgynghoriad arno gan Lywodraeth Cymru. Casglodd dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid allweddol yn cynnwys cyrff addysg, y Comisiynydd Plant, carfanau pwyso ym maes trafnidiaeth fel Busk, darparwyr trafnidiaeth, llywodraeth leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod consensws eang bod cwmpas y Mesur drafft yn rhy gyfyngedig (gan fod cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn rhy gyfyngedig) a dylid ceisio rhagor o bwerau gan San Steffan. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad y Dirprwy Brif Weinidog i geisio’r pwerau hynny ond efallai y bydd yn ystyried cyflwyno’i Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei hun yn y maes hwn.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion mewn cysylltiad â’r Cod Ymddygiad arfaethedig ar gyfer disgyblion sy’n defnyddio cludiant i’r ysgol ac yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: Cynhaliwyd ymchwiliad craffu eang gennym ar y Mesur drafft hwn, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych yn ofalus ar yr argymhellion yn ein hadroddiad.”

Yr Adroddiad