Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd 27/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Heddiw, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei fod yn cynnal ymchwiliad i Ystyried Pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr Ombwdsmon").

Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ac mae ganddo bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru.

Mae Nick Bennett, yr Ombwdsmon, wedi nodi pum prif agwedd ar Ddeddf 2005 y mae'n credu y dylid eu newid er mwyn cryfhau'r rôl.

Dyma'r pum prif agwedd a nododd:

  • y gallu i'r Ombwdsmon gael pwerau i gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb orfod derbyn cwyn yn gyntaf;
  • y gallu i'r Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar;
  • y gallu i'r Ombwdsmon  roi cyngor i'r holl wasanaethau cyhoeddus ynghylch ymdrin â chwynion;
  • ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i ofal iechyd preifat i'w alluogi i ymchwilio i pan fydd claf yn cael gofal iechyd preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â gofal iechyd cyhoeddus; a'r
  • cael gwared ar y bar statudol a fyddai'n caniatáu i'r Ombwdsmon  ystyried achos y mae, neu y bu, posibilrwydd iddo gael ei adolygu gan lys, tribiwnlys neu ryw broses arall.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

"Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru rôl bwysig iawn o ran craffu ar waith gwasanaethau cyhoeddus.

"Bydd y Pwyllgor yn ystyried y pum maes penodol hyn ac unrhyw ddiwygiadau eraill posibl i'r Ddeddf bresennol i benderfynu a oes angen inni gryfhau'r pwerau'r Ombwdsmon."