Cyhoeddwyd 14/09/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu
Bydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ei gyfarfod cyntaf yn y tymor newydd am 9.30am ddydd Mercher, Medi 19.
Bydd y Pwyllgor yn trafod cylch gorchwyl ei ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu ac yn rhan o’r ymchwiliad hwnnw bydd yn cymryd tystiolaeth gan Ann Lloyd, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, a swyddogion eraill o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd yr aelodau yn edrych hefyd ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar y Gwasanaeth Ambiwlans.
Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae cylch gwaith mawr gan y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ac mae wedi cynllunio i wneud llawer o waith y tymor hwn. ‘R wy’n edrych ymlaen am yr her ac yn awyddus i ddechrau â’r ymchwiliad i Gynllunio’r Gweithlu, sef ein gorchwyl cyntaf y tymor hwn.”
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd o 9.30amtan 11.40pm.
Manylion llawn ac agenda