Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad undydd i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau fis nesaf mewn ymateb i drychineb Grenfell Tower yn Llundain.
Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn archwilio’r gofynion diogelwch, y canllawiau i drigolion a’r rheoliadau cyfredol yng Nghymru ddydd Iau 13 Gorffennaf yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
"Arswyd i bawb oedd gwylio’r hyn ddigwyddodd yn Grenfell Tower yr wythnos diwethaf, ac rwyf am gael sicrwydd bod pob mesur diogelu angenrheidiol ar waith i atal trychineb o’r fath yng Nghymru.
"Rydym yn gobeithio clywed gan y rhai sydd â chyfrifoldeb ym myd llywodraeth leol, yn y cymdeithasau tai, ac yn y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Yna, byddwn yn codi unrhyw faterion gyda Llywodraeth Cymru.
"Rydym am ofyn y cwestiynau y mae pobl sy’n byw mewn tyrrau o fflatiau yng Nghymru yn eu gofyn, a byddwn yn gwahodd grwpiau tenantiaid i siarad â ni. Rydym yn awyddus i gael sicrwydd bod pryderon trigolion yn cael eu clywed ac yr ymdrinir â nhw."